Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Caws Pob Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau

Gwneud Caws

Torri'r Ceuled, Sgaldio a Throi

Caiff y ceuled ei dorri'n ddarnau bach ar ôl iddo setio digon. Defnyddir cyllyll neu wifrau, neu letwadau ar gyfer caws meddal, ac mae hyn yn gollwng y maidd (yr hylif). Pan wneir hyn, mae'r dolchen neu'r jynced yn fregus iawn, mae'r ceulion a dorrwyd yn feddal ac mae'r 'gôt' sydd o amgylch pob darn yn agored iawn. Rhaid eu trafod yn ofalus iawn, gan y bydd gor-drafod yn amharu ar safon y caws terfynol. Mae'r rhan hon, fel llawer o'r broses yn dibynnu'n fawr ar fedr y gwneuthurwr.

Mae maint y darnau a dorrwyd yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o gaws a'r rysáit. Pan fydd angen cynhesu'r ceulion neu eu sgaldio ar wres uchel, cânt eu torri'n ddarnau llai nag ar gyfer mathau nad ydynt yn cael eu trin â chymaint o wres. Yn achos caws sy'n cael ei aeddfedu gan lwydni, caiff y ceulion eu torri neu eu llwyeidio'n ddarnau mwy o lawer a'u rhoi mewn mowld neu gawstell heb drafod fawr mwy arnynt. Caiff y ceuled a'r maidd eu gwresogi'n ysgafn i setio'r ceuled fel y gellir ansoddi caws o fath Cheddar, cywasgu caws o fath Gouda, rhoi caws glas mewn cawstell neu sgaldio Mozzarella.