Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Bara lawr ffres gyda lemon Wyau pob organic
Crempog Cocos

Gwneud Caws

Gwahanu'r Ceulion a'r Maidd

Pan fydd y ceulion wedi cyrraedd yr ansawdd iawn, tynnir y maidd ohonynt h.y. caiff y ceulion a'r maidd eu gwahanu. Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gaws, gadewir i'r ceulion grynhoi, yn barod ar gyfer y cam nesaf yn y broses. Anfonir y maidd i gael ei brosesu mewn man arall. Slawer dydd, roedd yn cael ei roi i'r moch ac, er ei fod yn dal yn bwysig fel bwyd anifeiliaid, ceir technolegau modern sy'n golygu y gellir defnyddio'r lactos a rhannau gwerthfawr eraill ohono er lles pobl.