 |
- Cynhyrchwyr Bywd A Diod Cymru Ar Eu Ffordd I'r Dwyrain Pell Ar Gyfer FHA 2008
|
 |
|
 |
- Article title
Cynhyrchwyr Bywd A Diod Cymru Ar Eu Ffordd I'r Dwyrain Pell Ar Gyfer FHA 2008- Full article
Mae cynhyrchwyr Cymru yn gobeithio gwneud cysylltiadau pwysig pan fyddant yn mynd i’r dwyrain ar gyfer arddangosfa fasnach Food & Hotel Asia (FSA) yn Singapore y mis hwn (22-25 Ebrill). Y digwyddiad yw’r sioe fwyd a lletygarwch ryngwladol fwyaf yn Asia, ac yn 2006 denodd fwy na 37,000 o brynwyr rhyngwladol i ganolfan Expo Singapore. Bydd saith o gwmnïau o Gymru yn arddangos yn y digwyddiad dan faneri Busnes Rhyngwladol Cymru a Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda phoblogaeth o 3.6 biliwn, mae tua 56% o boblogaeth y byd yn byw yn ardal Asia Pasiffig. Bydd Cwmni Dwr Llanllyr, ‘Allforiwr Diod y Flwyddyn’ ac ‘Allforiwr Cymru y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Allforio Food from Britain 2000, yn arddangos ei amrediad cyfan o dd?r llonydd a phefriog mewn poteli d?r 750ml a 300ml. Cafodd y cwmni, sydd hefyd wedi ennill gwobr y Gwir Flas, hefyd deitl cylchgrawn Imbibe am y d?r o Brydain gyda’r blas gorau, a bydd hefyd yn dangos ei becyn cyfleus cyfeillgar i’r amgylchedd. Bydd Halen Môn yn cyflwyno nifer o gynnyrch newydd yn y digwyddiad, ac mae’n gobeithio manteisio ar ddiddordeb marchnad y Dwyrain Pell mewn gwahanol fathau o halen môr ar gyfer gwahanol seigiau. Bydd y cwmni yn rhoi sylw i nodweddion y môr o amgylch Ynys Môn, tarddle Halen Môn, a enwyd yn un o bum prif gynnyrch gastronomig y byd yn y Feria de Gastronomia yn Sebastian. Yn newydd yn yr FHA fydd Halen Môn mwg derw a sbeislyd organig mewn pecynnau chef 500g, Halen Môn mân 100g, Halen Môn seleri organig 100g a thiwbiau 10g o Halen Môn fanila, sbeislyd organig, mwg derw, pur ac organig. Bydd cardiau rysetiau a deunydd pwynt gwerthu hefyd yn cael eu dangos. Bydd Trioni Cyf yn arddangos ei flaslaeth organig Daioni. Mae diodydd y cwmni gwobrwyol o Sir Benfro yn isel mewn braster heb unrhyw liwiau artiffisial, blasau neu gadwolion. Mae’r diodydd ar gael mewn pedwar blas - siocled (enillydd presennol teitl cenedlaethol ‘Rhagoriaeth mewn Bwyd a Diod’ am ddiodydd plant), mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion. Bydd y cwmni hefyd yn hyrwyddo ei becyn llaeth organig Daioni 125ml newydd ar gyfer gwasanaeth bwyd. Bydd Ty Nant Spring Water Cyf o Fethania yn arddangos ei amrediad d?r mwynol llonydd a phefriog Ty Nant, sydd ar gael mewn poteli gwydr glas cobalt a coch crimson ac amrediad d?r mwyn TAU yn eu poteli chic a minimalaidd. Byddant hefyd yn arddangos y poteli d?r llonydd PET a ddyluniwyd gan Ross Lovegrove sydd ar gael mewn meintiau 1.5ltr, 1.0ltr a 500ml. Bydd The Hurns Brewing Company yn gwneud ei ymweliad cyntaf i’r FHA, a gynhelir bob dwy flynedd. Derbyniodd y cwmni o Abertawe, sy’n enillydd gwobr y Gwir Flas, hefyd deitl ‘Cwrw Gorau Cymru’ gan Tesco, a bydd yn dangos ei holl amrediad o fathau cwrw potel yn cynnwys: OSB, Cwrw Haf, Cwrw Braf, Cwrw Gaeaf, Taffy Apples Cider, a Magic Lagyr. Bydd The Good Carb Food Co. Cyf yn arddangos ei amrediad o gynnyrch Granola Lizi yn Singapore. Mae snaciau iach blaengar y cwmni o Laneli yn isel mewn GL 5.5, yn gollwng egni’n araf ac yn dda i siwgr gwaed, ac yn rhydd o wenith. Mae’r amrediad yn cynnwys Granola Gwreiddiol Lizi, grawnfwyd wedi’i grasu yn barod i’w fwyta, ‘’Lizi’s Granola Crunch’, sy’n ddarnau bach o glystyrau grawnfwyd a ddaw mewn 3 blas: Triagl a Pecan, Leim a Sinsir a Siocled Belgaidd. Mae gan y cwmni eisoes rai cysylltiadau gyda’r Dwyrain Pell, gan allforio i Hong Kong ac India. Bydd Hybu Cig Cymru yn cymryd camau yn y digwyddiad i ehangu’r farchnad ar gyfer cig oen Cymru yn y Dwyrain Pell, marchnad llawn addewid y mae HCC yn gobeithio medru manteisio arni i’r eithaf yn y dyfodol agos. Bydd dewis eang o doriadau cig yn cael eu harddangos ar y stondin a bydd staff HCC ac allforwyr cig coch o Gymru ar gael i gynnig cyngor ac i helpu darpar brynwyr, a fydd yn cael cyfle i samplo danteithion Cig Oen PGI. I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â: Halen Môn Brynsiencyn Llanfairpwll Ynys Môn LL61 6TQ Cyswllt: Alison Lea-Wilson Ffôn: 01248 430871 E-bost:Alison@seasalt.co.uk Gwefan: www.seasalt.co.uk Ty Nant Spring Water Cyf Bethania Llanon Ceredigion SY23 5LS Cyswllt: Anna Martin Ffôn: 01974 272 111 E-bost: anna.martin@tynant.com Gwefan: www.tynant.com The Hurns Brewing Company Cyf The Kingsway Stad Ddiwydiannol Fforestfach Abertawe SA5 4DL Cyswllt: Connie Parry Ffôn: 01792 560020 Ffacs: 01792 579055 Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk Trioni Cyf Ffosyficer Abercych Boncath Sir Benfro SA37 0EU Cyswllt: Teleri Thomas Ffôn: 01239 682 572 Ffacs: 0560 1114 3106 Gwefan: www.trioni.com Cwmni D?r Llanllyr Talsarn Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 8QB Cyswllt: Patrick Gee Ffôn: 01570 470 788 Ffacs: 01570 471 074 Gwefan: www.llanllyrwater.com Good Carb Food Company Cyf Blwch Post 94 Llanelli SA15 4ZW Cyswllt: Mick Shaw neu Nigel Bryan Ffôn: 01554 755009 Ffacs: 0870 4208 824 Gwefan: www.good-carb-food.co.uk Hybu Cig Cymru 21a Rhodfa’r Gogledd Aberystwyth SY23 2JL Cyswllt: Bill Joyce Ffôn: 01970 625050 Ffacs: 01970 615148 Gwefan: www.hccmpw.org.uk - Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 8 April 2008
|
|
 |