Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau Crempog Cocos
Bara lawr ffres gyda lemon
Article title

Cynhyrchwyr Cymru Yn "Naturiol" Ar Gyfer Sioe Organig

Full article

Mae cynhyrchwyr organig o bob rhan o Gymru yn paratoi ar gyfer digwyddiad masnach mwyaf Prydain - Natural & Organic Products Europe 2008 sy’n agor yn Llundain yr wythnos nesaf (13/14 Ebrill).
 
Bydd chwe chwmni yn arddangos yn y digwyddiad yng nghanolfan arddangos Olympia dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae nifer o’r cwmnïau wedi ennill gwobrau Gwir Flas.
 
Bellach yn ei ddeuddegfed blwyddyn, dyma’r digwyddiad masnach mwyaf o’i fath ym Mhrydain ac mae’n dal i dyfu o nerth i nerth ac yn brif arddangosfa flynyddol ar gyfer yr holl sector naturiol ac organig.
 
Caiff amrediad newydd o basteiod gan Stad Rhug o Gorwen eu lansio yn y sioe, wedi’u hanelu at y sectorau adwerthu a gwasanaeth bwyd. Gwneir y pasteiod o gig eidion Aberdeen Angus organig traddodiadol Stad Rhug, maent ar gael mewn pedwar o fathau: Stêc a Stowt, Stêc, Madarch a Gwin Coch, Stêc a Stilton a Stêc a Mwstard Cyflawn.
 
Bydd The Organic Smokehouse, yr unig d? mwg hollol organig ym Mhrydain, yn datgelu pecynnau newydd a ysbrydolir gan amgylchiadau naturiol y cwmni. Mae gwedd newydd y cwmni o Bowys yn cynnwys delweddau megis dail coed derw a choed wedi’i lifio i gyfleu nodweddion naturiol ei gynnyrch mwg sy’n cynnwys eog, caws, menyn, halen, olew’r olewydd a Mouse eog.
 
Bydd Trioni Cyf yn arddangos blaslaeth organig Daioni yn y sioe. Mae Clwb Pêl-droed Chelsea ymhlith prynwyr y blaslaeth a chynhelir y Gwobrau Naturiol ac organig yng nghartref y clwb yn Stamford Bridge ar nos Sul y sioe (13 Ebrill).  Mae diodydd y cwmni gwobrwyol o Sir Benfro yn isel mewn braster heb unrhyw liwiau neu gadwolion artiffisial ac ar gael mewn pedwar blas - siocled (a enillodd y wobr genedlaethol ‘Rhagoriaeth mewn Bwyd a Diod’ ym mis Tachwedd), mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion.
 
 
Bydd Farmhouse Freedom Eggs Cyf yn lansio ei wy pasturedig organig hylif a gymeradwywyd gan Gymdeithas y Pridd mewn cartonau 1 kilo ar gyfer y sector arlwyo. Bydd y pecynnau ar gael fel wy cyfan ac mewn cartonau 1 kilo o felynwy a gwynwy.
Daw wyau’r cwmni o Sir Fynwy o heidiau bychan o ieir a gedwir ar ffermydd teuluol gyda safonau lles uchel, a bydd hefyd yn arddangos ei wyau plisgyn organig ar hambyrddau ar gyfer arlwyo yn ogystal ag wedi eu blaenbacio ar gyfer y sector adwerthu.
Bydd amrediad o gynnyrch wy ychwanegol hefyd yn cael eu dangos yn cynnwys mayonnaise - ar gyfer arlwyo ac adwerthu - a llenwad brechdanau wy mayonnaise.
Bydd Bacheldre Watermill, y cynhyrchydd blawd arbenigol o Bowys, yn arddangos eu blawd newydd mewn blas mwg gwreiddiol. Mae’r blawd mâl  cyfuniad brag cryf organig yn ddelfrydol ar gyfer peiriannau bara a phobi â llaw, gan roi torth hyfryd gydag aroma melys mwg coed sy’n bwrw i gof fara a bobwyd mewn ffwrn goed. I gael y blas mwg naturiol, caiff y creision gwenith brag o’r felin eu mygu’n oer dros ddarnau derw o’r Gororau yn The Organic Smokehouse i greu blawd mâl traddodiadol o’r radd orau. Caiff y blawd ei becynnu’n unigol a’ i roi mewn pecynnau hollol gynaliadwy a phydradwy y medrir eu compostio gartref. I ychwanegu’r gorffeniad gwyrdd terfynol, mae’r cwmni ecogyfeillgar hefyd newydd gyflwyno labeli y medrir eu compostio i gyd.
 
Bydd Caws Iogwrt Organig Sanclêr o Sir Gaerfyrddin yn arddangos ei amrediad yn y digwyddiad. Mae’r cwmni’n defnyddio llaeth o fuches y fferm ei hun o wartheg pedigri  Meuse- Rhine-Issels i wneud ei gaws iogwrt organig probiotig ei hun sy’n seiliedig ar gynnyrch llaeth traddodiadol o’r Dwyrain Canol. Mae’r caws iogwrt ar gael mewn tri math - naturiol, basil a garlleg, a gyda syfi, ac mae’n addas i lysieuwyr. Bydd Sanclêr hefyd yn mynd â dau gynnyrch i’w samplo - pwdin oren a mêl, a dip mintys a dil.

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:
 
Bacheldre Watermill
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
SY15 6TE
Ffôn: 01588 620489
E-bost: info@bacheldremill.co.uk
Gwefan:www.bacheldremill.co.uk
Cyswllt: Matt & Anne Scott
 
The Organic Smokehouse
Oak Meadow
Bacheldre
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
Ffôn: 01588 660206
E-bost: michael@organicsmokehouse.com
Gwefan: www.organicsmokehouse.com
Cyswllt: Michael Leviseur
 
Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Teleri Thomas
 
Stad Rhug
Corwen
Sir Ddinbych
LL21 0EH
Ffôn: 01490 413000
E-bost:philiphughes@rhug.co.uk
Gwefan: www.rhug.co.uk
Cyswllt: Philip Hughes
 
Farmhouse Freedom Eggs Cyf
Great House
Gwehelog
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1RJ
Ffôn: 01291 673129
E-bost: sales@freedomeggs.co.uk
Gwefan: www.freedomeggs.co.uk
Cyswllt: David Cooknell
 
Caws Iogwrt Organig Sanclêr Organic
Glancynin
Sanclêr
Sir Gaerfyrddin
SA33 4JR
Ffôn: 01994 232999
E-bost: sanclerorganic@aol.com
Gwefan: www.sanclerorganic.co.uk
Cyswllt: Elfyn Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 10 April 2008