Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Bara lawr ffres gyda lemon
Iogwrt gyda Blawd Ceirch
Article title

Patisserie Gwobrwyol yn Symud Cartref

Full article
Bydd tîm g?r a gwraig o Ogledd Cymru, a fu’n pobi teisennau a phwdinau gwobrwyol o’u cartref yn yr Wyddgrug am y pum mlynedd ddiwethaf, yn symud i safle masnachol newydd yn y Fflint ym mis Mai.
 
Bu Anne’s Patisserie, a gaiff ei redeg gan Anne a James Elwood o gegin eu cartref, mor llwyddiannus fel bod y cwmni wedi cymryd les pum mlynedd ar uned yn Stad Ddiwydiannol Manor, Fflint.
 
Mae’r symud yn golygu buddsoddiad o £56,000 gydag Anne a James yn rhoi £40,000 o hynny o’u harian eu hunain. Daw’r gweddill o Grant Buddsoddi Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Cyflogir gyrwyr dosbarthu newydd a chymhorthydd cegin newydd ar unwaith a gobeithir cyflogi chef pestri llawn-amser yn y dyfodol agos.
 
Byddir yn cynyddu’r cynhyrchiant o amrywiaeth amheuthun o deisennau, pwdinau a siocledi a wneir â llaw. Mae’r cwmni eisoes yn cyflenwi llawer o brif fwytai a gwestai Gogledd Cymru, ynghyd â delicatesen fach yn yr Wyddgrug. Y bwriad yn awr yw cynyddu’r nifer o allfannau adwerthu drwy delis arbenigol a siopau fferm.
 
Cafodd Anne’s Patisserie gymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Gwir Flas y llynedd am eu teisen gaws bob siocled gwyn, oren a llugaeron a’u teisen gaws bob cnau  cyll a chyflaith menyn
 
Dywedodd Anne: “Mae’r busnes wedi tyfu llawer mewn blynyddoedd diweddar ac nid oeddem yn medru ymdopi bellach gyda chynhyrchu adref. Ein nod yw rhoi gwasanaeth personol gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau yn unig. Er mai’r fasnach arlwyo yr ydyn ni’n ei gyflenwi’n bennaf, mae gennym fusnes cynyddol yn gwneud teisennau arbennig ar gyfer priodasau a dathliadau, a dyna pam ein bod eisiau cynyddu ein presenoldeb mewn siopau”.
 
Gwneir popeth i archeb a defnyddir cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd. Mae’r amrediad o bwdinau a wneir yn llaw yn cynnwys clasuron megis teisennau Bakewell ceirios a thartenni cwstard traddodiadol yn ogystal ag amrediad o deisennau caws pob sawrus, megis madarch gwyllt gyda blas tarragon a phwdinau wedi’u pobi’n unigol, megis ffondant siocled tywyll.
 
Dywedodd James: “Rydym wedi datblygu amrywiaeth gyffrous o bwdinau a chynnyrch sawrus sydd â blas gwych ac yn werth am arian. Bydd y safle newydd yn ein galluogi i wneud hyd yn oed mwy o gynnyrch blasus i gynulleidfa ehangach.”
 
 
NODIADAU I’R GOLYGYDD
 
Sefydlwyd Anne’s Patisserie yn 2003 a daeth yn gwmni cyfyngedig 18 mis yn ôl, ar ddiwedd 2006. Caiff ei redeg gan y perchnogion Anne a James Elwood  o’u cartref yn yr Wyddgrug. Mae cefndir Anne mewn rheoli gwestai ynghyd â hoffter gydol oes o bobi a gwneud teisennau. Hyfforddodd James fel chef a chef pestri yn gweithio gydag amrywiaeth o fwytai a gwestai ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
 
Mae’r cwmni’n cynhyrchu amrediad o bwdinau a theisennau safon uchel a wneir â llw yn defnyddio rysetiau rhanbarthol dilys. Dim ond cynhwysion ansawdd uchel a ddefnyddir ac mae’r perchnogion yn ymfalchïo yn eu sylw i fanylion a gwasanaeth personol.
 
I gael mwy o wybodaeth am gynnyrch cysyllter â:
 
Anne’s Patisserie
Anne & James Elwood
Ffôn: 01352 759035
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 30 April 2008