Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Pice ar y maen
Article title

Sioe'r RHS yn Blodeuo Gyda Blas

Full article
Gall ymwelwyr i Sioe Flodau Wanwyn y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yng Nghaerdydd (18-20 Ebrill) gael blas ar Gymru gyda bwydydd a diodydd gwobrwyol o Gymru.
 
Am y drydedd flwyddyn, bydd y digwyddiad yn cynnwys bwyty hunanwasanaeth ‘Blas’ Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda lleoedd bwrdd i 180 o bobl, gall ymwelwyr brynu detholiad o seigiau poeth ac oer a gynhyrchir o amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd sydd wedi ennill gwobrau Gwir Flas.
 
Cynhelir yr RHS ym Mharc Bute yn ymyl Castell Caerdydd. Bydd bwyty Blas ym mhafiliwn ‘Profi Cymru’.
 
Mae Profi Cymru yn gynllun ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Caerdydd. Bydd pafiliwn Profi Cymru yn cynnwys amrediad eang o *fwydydd a diodydd o Gymru, yn cynnwys llawer o enillwyr gwobrau Gwir Flas, yn ogystal â chrefftau. Bydd hefyd syniadau ar gyfer gwyliau ac ymweliadau gan Croeso Cymru. Mae Blas yn gynllun i hyrwyddo bwydydd a diodydd Cymru.
 
Ymysg y seigiau fydd ar gael ym mwyty Blas fydd enillwyr Gwir Flas fel byrgyr stêc eidion du Cymreig Ponty Butchers, pastai cyw iâr a ham gyda ham o Gwm Gwaun a chig cywion ieir Oaklands sy’n pori’n rhydd, cawl cartref megis y cawl cennin a thatws y Really Welsh Company gyda chaws gafr Pantysgawn ar ei ben a salad arbennig Blas o bastai porc Edwards o Gonwy, ham Cwm Gwaun a chaws Perl Wen. Bydd y brechdanau yn cynnwys brechdan cranc, bwyd môr, tiwna a leim Dash, amlap cyw iâr mwg Mynydd Du, brechdan wy mayonnaise organig a sbigoglys y Knobbly Carrot Company yn ogystal â detholiad o deisennau a phwdinau a diodydd poeth ac oer.
 
Caiff Blas ei reoli gan Howel Food Consultancy ar ran Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda Capital Cuisine yn darparu’r gweithrediad bwyd
 
 
 
MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
 
 
NODIADAU I’R GOLYGYDD
 
*Cwmnïau bwyd a diod Cymru a gynrychiolir ym mhafiliwn Profi Cymru:
 
Fiona’s Fudge
Gwinllan Cwm Deri
Hot Roasted Nuts
Lewis Fine Foods
Premier Welsh Hampers
Welshbrew Tea
The Really Welsh Company
The Welsh Venison Centre
Gourmet Med
Caws Teifi
Baron’s Patisserie
Dewi Roberts Cigyddion
Oli Oli Olives
Lazy Days Meals
The Welsh Mustard Company
Hufen Iâ Llaethdy Llanfaes Dairy
Hufen Iâ Cowpots
Unusual Food Company
Popty Cara
Celtic Country Wines
Gwynt y Ddraig Cider Cyf
Wil’s Smokehouse
Homemade Country Preserves
The Chocolate House
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 17 April 2008