Bydd Gwir Flas Cymru ar gael yn ddiweddarach y mis hwn yn un o brif ddigwyddiadau coginio yr Eidal, Identitą Golose (Ionawr 27-30).
Bydd cwmni Halen Mōn yn arddangos ei amrediad yn y digwyddiad ym Milan. Daw Identitą Golose yn fuan ar ōl g?yl goginiol Ewropeaidd arall bwysig, y Feria de Gastronomķa yn Sbaen lle enwyd y cwmni yn un o bum prif gynnyrch gastronomig y byd.
“Mae hwn yn ddigwyddiad newydd i ni a byddwn yn cael cyfle i gwrdd ā rhai o’r chefs rhyngwladol yr ydym eisoes yn eu cyflenwi drwy ddosbarthwyr,” meddai Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Halen Mōn.
“Mae Identitą Golose yn nodi dechrau 2008 brysur i ni gan y byddwn drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd i Gulfood yn Dubai a sioe fwyd ryngwladol Alimentaria ym Marcelona yn y dyfodol agos.”
Bydd Hybu Cig Cymru, a gynrychiolir fel rhan o’r ddirprwyaeth Brydeinig, yn tynnu sylw at gig oen a chig eidion Cymru.
Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn mae’r gyngres flynyddol yn ymroddedig i goginio unigryw. Fe’i sefydlwyd gan yr Eidalwr Paolo Marchi, y newyddiadurwr ac ysgrifennwr am fwyd.
Am bedwar diwrnod, bydd yr adeilad - pencadlys hanesyddol Cyfnewidfa Stoc Milan, yn gartref i’r gyngres a ddisgrifiwyd fel y ‘digwyddiad blaenllaw ar gyfer chefs avant-garde’.
Yr ardaloedd y rhoddir sylw iddynt eleni fydd rhanbarth Abruzzo yn yr Eidal a’r Deyrnas Unedig. Bydd y chefs Heston Blumenthal, Sat Bains, Shane Osborn, a Sanjay Dwivedi yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ac yn dangos amrediad ac arbenigedd coginio Prydeinig i’r ymwelwyr.
Bydd dinas Milan yn cymryd rhan amlwg hefyd, gyda chyfres o ddigwyddiadau yn rhai o’i bwytai gorau.