Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Crempog Cocos
Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Article title

Cynhyrchwyr Cymru Yn Medi Manteision Arddangosfeydd

Full article

Mae chefs blaenllaw wedi bod yn cael Gwir Flas Cymru wrth i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru barhau i ennill canmoliaeth a chwsmeriaid ledled Prydain.

‘Dyw maint ddim yn bwysig pan fo gennych gynnyrch da, a bu cwmnïau bwyd a diod Cymru yn hyrwyddo eu cynnyrch yn llwyddiannus mewn amrediad o ddigwyddiadau yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf bu cynhyrchwyr yn manteisio ar y cyfle i arddangos dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn sioeau ym Mhrydain ac ar y sgrin fach.

Manteisiodd nifer o gwmnïau ar y cyfle i deithio i’r BBC Good Food Show yn Llundain a Birmingham, a ddenodd filoedd o ymwelwyr ac arbenigwyr y diwydiant, gan ei wneud yn un o’r arddangosiadau gorau ym Mhrydain ar gyfer cynhyrchwyr o Gymru.

Mae Welsh Farm Organics o Sir Drefaldwyn - a enillodd y brif wobr am ei gig oen yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru - yn arddangos yn rheolaidd mewn sioeau, yn cynnwys y BBC Good Food Show.

“Mae’r cyfan yngl?n â chodi ein proffil ac adeiladu perthynas,” meddai Jonathan Rees, sy’n rhedeg y busnes gyda’i wraig Sally yn eu fferm ym Mochdre ger y Drenewydd.

“BBC Good Food Show eleni oedd yr orau eto i ni. Dangosodd y cyhoedd a chefs ddiddordeb mawr yn ein cig,” meddai Jonathan, a gymerodd ran yn ddiweddar hefyd yn sioe ‘Gwir Flas Cymru’ ar sianel deledu siopa QCC.

“Archebodd Ainsley Harriott beth o’n ham aer-sychu sir Drefaldwyn, ac roedd Brian Turner a Thane Price wrth eu boddau gyda’n cig eidion. Roeddem yn rhannu’r llwyfan gyda Jimmy Doherty o Jimmy’s Farm, ac mae gan John Torode ddiddordeb yn ein cig eidion ar gyfer ei fwyty.”

Ychwanegodd: :”Fyddem ni byth yn medru mynd i ddigwyddiadau fel hwn ar ben ein hunain. Busnes bach ydyn ni ond drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru rydyn ni wedi cael proffil uchel a ‘dyw pobl ddim yn ein gweld fel cwmni bach, dim ond fel un llwyddiannus.”

Bu cwmni Harvies Pies o Sir y Fflint yn cael ymateb ardderchog gan gynulleidfaoedd teledu ac arddangosfeydd gyda’i ddewis o basteiod melys a sawrus.

“Bu medru rhyngweithio gyda’r cyhoedd mewn sioeau a chwrdd â chynulleidfa yn ardderchog i ni fel busnes,” meddai Carol Harvie, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.

“Mae’r sylw o Gymru ar QVC wedi bod yn wych i’r holl gynhyrchwyr o Gymru sy’n cymryd rhan. Fedrwn ni ddim credu mor lwcus y buom i fynd ar y teledu a gwn na fyddem byth wedi ei wneud heb help gan y Cynulliad.”

Mae Castle Chocolates o Gaerffili, a fu’n arddangos yn y BBC Good Food Show yn Llundain a Birmingham am y tro cyntaf eleni, wrth eu bodd gyda’r ymateb a gawsant. Gwnaeth y cwmni, sy’n gwneud pob un o’r siocledi gyda llaw i rysáit Belgaidd, hefyd ei ymddangosiad teledu cyntaf ar ‘Sioe Gwir Flas Cymru’ a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd Dave Hughes, y partner sefydlu: “Bu’r ymateb yn wych. Bu pobl yn dod i’r siop nad oedd erioed wedi dod i mewn o’r blaen ar ôl ein gweld ar y teledu.

“Cawsom help a chefnogaeth ardderchog ar hyd y ffordd, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Cynulliad yn 2008.”

Mae Trioni Cyf  sy’n cynhyrchu amrediad Daioni o flaslaeth organig yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn arddangosiadau a digwyddiadau drwy Adran Datblygu Bwyd a Marchnad y Cynulliad.

“Unwaith fod gennych rwydwaith dosbarthu ym Mhrydain, mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd allan ac yn dweud wrth bobl am eich cynnyrch,” meddai Teleri Thomas, Rheolwr Marchnata’r cwmni.

“Mae’r BBC Good Food Show yn ffordd wych i hyrwyddo’r defnyddwyr, gadael iddynt brofi eich cynnyrch a dweud wrthynt lle medrant eu prynu. Cawsom ymwelwyr o lawer o rannau o Brydain yn ogystal â phobl o’r diwydiant ac mae’n rhan bwysig o’r cyfuniad marchnata.”.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 3 January 2008