Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo Bara lawr ffres gyda lemon
Brecwast llawn traddodiadol Gymreig
Article title

Siopwyr yn profi Gwir Flas Cymru

Full article

Gall siopwyr brofi rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig yn ystod sioe deithiol fydd yn ymweld ag archfarchnadoedd o amgylch De Cymru.

Yn llawn o gynnyrch gwobrwyol y Gwir Flas, bydd y sioe deithiol - a gynhelir fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi - yn ymweld â sawl archfarchnad o Gaerfyrddin i’r Fenni.

Mae’r daith 24 dyddiad - sy’n cychwyn heddiw (dydd Iau) yn y Pîl - yn anelu i hyrwyddo holl fwydydd a diodydd Cymru sydd ar gael ar hyn o bryd mewn archfarchnadoedd ledled Cymru yn cynnwys llawer o enillwyr gwobrau Gwir Flas megis Edwards o Gonwy, Melin Ddwr Bacheldre, Caws Eryri, Caws Cenarth, caws cheddar Cadog, The Authentic Curry Company, Brecon Carreg, Trioni, Rachel’s Organic, Tan y Castell a Halen Môn.

Dywedodd Carwyn Jones, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad: “Mae brand y Gwir Flas yn tyfu mewn cydnabyddiaeth fel bathodyn o safon uchel ac rwy’n sicr y bydd gan ddefnyddwyr ddiddordeb mewn profi a chlywed mwy am y bwydydd a’r diodydd gwych sydd ar gael gan gynhyrchwyr yng Nghymru.”

Wedi’i drefnu a’i gydlynu ar ran Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Nerys Howell o Howel Food Consultancy, mae trelar y sioe deithiol yn cynnwys arddangosfa bwrpasol a chegin arddangos fydd yn dangos DVD o enillwyr y gwir Flas.

Cefnogir y daith gan Hybu Cig Cymru sy’n cyflenwi rysetiau a grëwyd yn arbennig ar gyfer Dydd Gwyl Dewi - llawer yn defnyddio cynnyrch gwobrwyol y Gwir Flas - yn ogystal â chig oen Cymreig a chig eidion Cymreig.

Gall ymwelwyr flasu detholiad o fwydydd a diodydd a gynhyrchir yng Nghymru ac sydd ar gael yn y stôr, a chael mwy o wybodaeth am gynnyrch Cymru a Gwobrau’r Gwir Flas.

Ar Ddydd Gwyl Dewi ei hunan, bydd y sioe deithiol yn Asda ym Merthyr Tudful lle bydd siopwyr yn derbyn cennin Pedr a dyfwyd yng Nghymru.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474

LLEOLIADAU’R SIOE DEITHIOL

Chwefror 22 - 24
Co-op, Stad Ddiwydiannol y Pîl, Croes Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr

Chwefror 25 - 28
Sainsbury’s, Derwen, Pen-y-bont ar Ogwr

Mawrth 1 - 3
Asda, Dowlais Top, Dowlais, Merthyr Tudful

Mawrth 4-7
Waitrose, Heol Merthyr, Llan-ffwyst, Y Fenni

Mawrth 8 - 10
Morrisons, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, Bae Caerdydd

Mawrth 11-14
Tesco, 1 Lôn Morfa, Caerfyrddin

Mawrth 15 - 17
Tesco, Parc Adwerthu Trostre, Llanelli

Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn cynnwys:

Ty Nant, Decantae, Brecon Carreg, Princes Gate, Garth Bakeries, Peters, Mary's Farmhouse, Pencader Bakeries, Braces, Tan y Castell, Tregroes Waffles, Ogmore Bakery, Cae Groes Bakery, Serious Food Company, Daffodil Cottage, Caws Eryri, Hufenfa De Arfon, Colliers, Pantysgawn, Caws Cenarth, Cadog, Rachel's Organic, Llaeth y Llan, Bradbury and Son, Trioni, Abergavenny Fine Food, Ellis Eggs, Calon Wen, Welsh Lady, Daffodil Cottage, Edwards o Gonwy, HCC, The Traditional Sausage Company, The Welsh Sausage Company, Welsh Pantry, Knobbly Carrot, The Authentic Curry Company, Murroughs Welsh Brew, Glengette, Tovali, Felinfoel, Wisgi Cymreig, Brains, Llannerch Vineyard, Toffoc, Monnow Valley, Rhymney Bitter, Crow Valley, Brains, Orchard Gold, Black Dragon, Merlyn, Bread of Heaven, Tomos Watkin, Parsons, The Real Crisp Company.

Rysetiau a darnau i’w profi ar y trelar

Rysetiau o gig oen Cymreig a chig eidio Cymreig gan Hybu Cig Cymru
Caws pob gyda chwrw Double Dragon
Omled brecwast Cymreig gyda bara lawr
Brecwast G?yr
Cawsiau gwobrwyol Gwir Flas
Selsig Cymreig gyda thatws stwns mwstard
Ffagots a phys a chawl mamgu Welsh Pantry
Pice ar y maen a theisennau eraill
Mafon hud Myrddin
Sylabwb seidr Gwynt y Ddraig a mêl

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 22 February 2007