Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
Article title

Cwmnïau Cymru yn gobeithio am addewidion o’r Dwyrain yn Dubai

Full article

Bydd bwyd a diod o’r safon uchaf gydag acen Gymreig ar gael yn Gulfood 2007, prif arddangosfa’r Dwyrain Canol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.

Cynhelir Gulfood yng Nghanolfan Ryngwladol Confensiynau ac Arddangosfeydd Dubai rhwng 19 a 22 Chwefror, ac mae’n hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno manteisio ar y cyfleoedd enfawr sy’n bodoli yng ngwledydd y Gwlff ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau bwyd a diod.
Bydd nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos yn Gulfood dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru a drefnir gan Busnes Rhyngwladol Cymru.

Bydd Cwmni D?r Llanll?r, a lansiodd ei dd?r ffynnon naturiol pur Source yn y farchnad yng Nghanada yn ddiweddar, yn arddangos ei boteli gwydr 750ml a 330ml o dd?r llonydd a phefriog.

Bydd Wendy Brandon Handmade Preserves o Foncath yn dangos ffefrynnau traddodiadol o’i amrediad o jams, marmaled, siytni a finegr ffrwythau, megis marmaled oren a jam mefus a mafon cochion.

Bydd Cheeses from Wales, menter gydweithredol gwneuthurwyr caws Cymru, yn cynnig samplau o chwe chaws wedi eu pasteureiddio gan: Caws Cenarth, Caws Mynydd Du, Colliers Cheddar, Gwneuthurwyr Caws Llanboidy, Caws Ffermdy Pantmawr a Chaws Eryri. Caiff tri chaws heb eu pasteureiddio hefyd eu dangos: Caws Nantybwla, Cawsiau Merlin a Chaws Ffermdy Teifi.

Bydd Radnor Hills Mineral Water Company Cyf o Drefyclo, a enillodd wobr Allforiwr Cymru y flwyddyn 2006, yn arddangos Jufru, cyfuniad o sudd ffrwythau a d?r ffynnon yn neilltuol y sudd oren a granadila a enillodd wobr y Gwir Flas. Bydd hefyd yn dangos GI fruitade, amrediad pefriog Gi isel o dd?r ffynnon gyda blas ffrwythau. Bydd amrediad Heartsease, detholiad safon uchel o ddiodydd d?r ffynnon a ffrwythau dan label Honest to Goodness, hefyd ar gael i’w flasu.

Caiff cig oen o Gymru a gyflenwyd gan Welsh Country Foods, Gaerwen ei arddangos diolch i Hybu Cig Cymru.

Bydd cig oen o Gymru ar gael mewn archfarchnad flaenllaw yn Dubai o fis Mawrth yn dilyn trafodaethau helaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Hybu Cig Cymru ac awdurdodau yn Dubai. Bydd nifer ychwanegol o gwmnïau yn teithio i Dubai fel rhan o’u taith fasnach i ymchwilio’r farchnad a dynodi cyfleoedd posibl ar gyfer allforio.

Bydd Axium Process o Abertawe, gwneuthurydd dur gloyw arbenigol ac sy’n gweithredu yn y diwydiannau bwyd, diodydd, fferylliaeth a biotech, yn ymchwilio’r farchnad ynghyd ag Itex Cyf o Lannau Dyfrdwy, braich allforio cadwyn archarchnadoedd Iceland Frozen Foods.

Ymunir â hwy gan Vin Sullivan Foods o Flaenafon sy’n cyflenwi bwydydd safon uchel i fwytai a The Welsh Chocolate Company o Abertawe, sy’n cynhyrchu siocledi â llaw, a Caws Cenarth, a enillodd ddwy wobr aur yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru eleni.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474

CWMNÏAU O GYMRU YN GULFOOD

Cheeses from Wales (Arddangosydd)
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
Ceredigion
SY25 6DP
Ffôn: 01974 28 2572
E-bost: sales@cheesesfromwales.com
Gwe: www.cheesesfromwales.com
Cyswllt: Gillian Pateman

Llanllyr Water Company (Arddangosydd)
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Ffôn:: 01570 470788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwe: www.llanllyrwater.com
Cyswllt: Patrick Gee

Radnor Hills Ltd (Arddangosydd)
Heartsease
Trefyclo
Powys
LD7 1LU
Ffôn: 01547 530220
E-bost: penny@radnorhills.co.uk
Gwe: www.radnorhills.com
Cyswllt:Penny Butler

Wendy Brandon Handmade Preserves (Arddangosydd)
Felin Wen
Boncath
Sir Benfro
SA37 0JR
Ffôn: 01239 841568
E-bost: wendy@wendybrandon.co.uk
Gwe: www.wendybrandon.co.uk
Cyswllt: Wendy Brandon

Hybu Cig Cymru (Arddangosydd)
Blwch SP 176
Aberystwyth
SY23 2YA
Ffôn: 01970 625050
E-bost: enquiries@hccmpw.org.uk
Gwe: www.hccmpw.org.uk
Cyswllt: Gwyn Howells

Axium Process Cyf (Taith Fasnach)
Stad Ddiwydiannol Hendy
Hendy
Abertawe
SA4 0XP
Ffôn: 01792 883882
E-bost: info@axiumprocess.com
Gwe: www.axiumprocess.com
Cyswllt: Derek Davies

Caws Cenarth (Taith Fasnach)
Glyneithinog
Pontseli
Boncath
Sir Gaerfyrddin
SA37 0LH
Ffôn: 01239 710432
E-bost: cenarth.cheese@virgin.net
Gwe: www.cawscenarth.co.uk
Cyswllt: Carwyn Adams

Itex Cyf (Taith Fasnach)
Second Avenue
Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy
Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint
CH5 2NW
Ffôn: 01244 842698
E-bost: alistair.cooke@iceland.co.uk
Gwe: www.itexuk.com
Cyswllt: Alistair Cooke

Vin Sullivan Foods Cyf (Taith Fasnach)
2 Stad Gilchrist Thomas
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RL
Ffôn: 01495 792792
E-bost sales@vin-sullivan.co.uk
Gwe: www.vin-sulllivan.co.uk
Cyswllt: John Sullivan

The Welsh Chocolate Company (Taith Fasnach)
18 Ddol Road
Dynfant
Abertawe
SA2 7UB
Ffôn: 01792 202807
E-bost: jean@welshchocolate.co.uk
Gwe: www.welshchocolate.co.uk
Cyswllt: Jean Woodman

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 12 February 2007