Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr Pastai filo sbiboglys a chaws
dwr ffynnon gyda leim
Article title

Waitrose i werthu wafflau o Orllewin Cymru

Full article

Mae cyfrinach llwyddiant y cwmni o Geredigion yn syml - dwy waffl denau wedi’u llenwi gyda thaffi hyfryd, ychydig yn sbeislyd. Maent yn cyd-fynd yn berffaith gyda chwpanaid o de neu goffi neu medrir eu defnyddio mewn amrywiaeth o rysetiau.

Yn rhan boblogaidd a sefydledig o wyliau bwyd a marchnadoedd yng Nghymru, caiff Tregroes Waffles eu gwerthu ar draws Prydain - dan label Tregroes a brandiau siopau eu hunain - yn ogystal â’u hallforio i Efrog Newydd.

Mae storau blaenllaw fel Fortnum & Mason, Harvey Nichols, Selfridges yn gwerthu Tregroes Waffles, ond dyma’r tro cyntaf i archfarchnad werthu’r cynnyrch ym mhob rhan o Brydain.

Dywedodd Kees Huysmans, Rheolwr Gyfarwyddwr Tregroes: “Mae’n amser cyffrous i Tregroes Waffles; mae’r cytundeb gyda Waitrose yn dyst i flynyddoedd lawer o waith caled ac ymroddiad gan bawb yn y cwmni.”

Dechreuodd pethau ym mis Tachwedd 1983 pan wnaeth Kees Huysmans wafflau taffi ar gyfer parti Guto Ffowc. Bellach mae’r busnes teuluol yn gweithredu o adeilad pwrpasol yn Llandysul gan gynhyrchu hyd at 4,000 o wafflau yr awr ac yn cyflogi tua 15 o bobl.

O’r waffl taffi plaen gwreiddiol - y medrir ei bwyta’n dwym neu’n oer - mae’r amrediad wedi ehangu i gynnwys wafflau wedi’u gorchuddio mewn siocled tywyll neu siocled llaeth.

Heb gnau, hadau sesame na chynhwysion a addaswyd yn enetig, nid yw’r wafflau’n cynnwys lliwiau na blasau artiffisial ac maent yn addas ar gyfer llysieuwyr.

Dywedodd Susan Berry, Rheolwr Gwerthiant a Marchnata, “Mae gan Tregroes Waffl sylfaen cleientiaid cyson a theyrngar, ac rydym yn hynod falch y bydd ein wafflau yn awr ar gael mewn storau Waitrose ym mhob rhan o’r wlad.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474

Tregroes Waffle Bakery
Uned 2
Heol Pencader
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 4AE
Ffôn: 01559 363468
E-bost: sales@tregroeswaffles.co.uk
Gwefan: www.tregroeswaffles.co.uk
Cyswllt: Sue Berry

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 20 February 2007