Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion wy organig wedi?i ferwi
wy organig wedi?i ferwi
Article title

Siopwyr Caerdydd Yn Dathlu Dydd Gwyl Dewi Mewn Marchnad Bwyd Iawn Newydd

Full article

Bydd gan bobl Caerdydd fwy byth o gyfle i brynu bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol pan fydd Marchnad Bwyd Go Iawn y Rhath yn agor ar Ddydd Gwyl Dewi [Sadwrn 1 Mawrth].
 
Bydd y Farchnad, a gaiff ei sefydlu a’i rhedeg yn y brifddinas gan Farchnad Glanyrafon, yn rhoi cyfle i fwy o bobl i brynu nwyddau bob wythnos yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr o Gymru.
 
“Cafodd Marchnad Bwyd Go Iawn y Rhath ei sefydlu mewn ymateb i alw gan siopwyr Caerdydd am fwy o fwydydd lleol a chynnydd yn nifer y cynhyrchwyr sy’n datblygu i ateb yr angen hwnnw,” meddai Steve Garrett, cadeirydd Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon.
 
“Fel gyda marchnad Glanyrafon, a enillodd wobr y Gwir Flas, bydd pawb sydd â stondin yn y Rhath wedi magu, tyfu neu wneud y cynnyrch a werthant, felly gall cwsmeriaid fod yn hyderus y bydd y bwydydd a werthir yn ffres ac iach a gyda’r blas gorau posibl.”
 
Croesawyd lansiad yr ail farchnad Bwyd Go Iawn yng Nghaerdydd gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, sy’n ymweld yn rheolaidd â marchnad fwyd Glanyrafon.
 
Dywedodd, “Mae’n gynllun gwych ac rwy’n siwr y daw Marchnad Bwyd Go Iawn y Rhath ar ddydd Sadwrn yr un mor boblogaidd ag yw Marchnad Glanyrafon ar ddydd Sul. Pan na fydd modd i mi fynd i Lanyrafon ar fore Sul, byddaf yn gwneud yn siwr fy mod yn mynd draw i Glwb Chwaraeon Mackintosh ar ddydd Sadwrn.
 
“Mae prynu’n lleol a phrynu cynnyrch o Gymru’n golygu mwynhau bwyd ffres o safon uchel a hefyd helpu cynhyrchwyr ac economi wledig Cymru.”
 
Dywedodd Steve Garrett, “Bydd Marchnad y Rhath yn anelu am yr un cyfuniad o ddewis eang o fwydydd ffres o Gymru, yn cynnwys bwyd organig, a‘r awyrgylch gyfeillgar a wnaeth Farchnad Glanyrafon mor llwyddiannus am y naw mlynedd ddiwethaf.
 
“Bydd digon o adloniant hefyd, a gan y bydd yn Ddydd Gwyl Dewi, bydd tyfwyr blodau lleol yn rhoi cennin Pedr ffres i siopwyr eu gwisgo i nodi’r achlysur ac i gael pawb i ymuno yn ysbryd Dydd Gwyl Dewi, bydd hefyd gyfle i ennill hamper o gynnyrch gan stondinwyr mewn raffl rad ac am ddim.”
 
Cadarnhawyd y bydd mwy na 25 stondin yn bresennol pan lansir marchnad y Rhath ar 1 Mawrth, yn cynnwys stondinau ‘bwydydd byd’ yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig Caerdydd, a bydd hefyd yn anelu i osgoi defnyddio unrhyw fagiau plastig.
 
Agorir y farchnad am 9.30am gan Rodney Berman, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd sy’n gynghorydd yn yr ardal, a disgwylir i’r Prif Weinidog ymweld tua 1pm.
 
Cynhelir y farchnad yn y maes parcio o flaen Clwb Chwaraeon Mackintosh ar gornel Stryd Keppoch a Plasnewydd Place yn y Rhath rhwng 9.30am a 1pm bob dydd Sadwrn.

I gael mwy o fanylion am y digwyddiad agoriadol a’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan, cysylltwch â:
 
Steve Garrett
Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon
Ffôn: 029 20227982
E-bost: mail@riversidemarket.org.uk
Gwefan: www.riversidemarket.org.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 22 February 2008