Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Bara lawr ffres gyda lemon
Bara lawr ffres gyda lemon
Article title

Sorbet Aur Cothi Yn Nefolaidd Ar Gyfer Dydd Gwyl Dewi

Full article
Mae dau o gynhyrchwyr yn Sir Gaerfyrddin yn uno i greu pwdin tymhorol arbennig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi - Sorbet Aur Cothi.
 
Mae gwneuthurwyr hufen ia a melysfwydydd Heavenly a Bragdy Ffos y Ffin - ill dau yn enillwyr gwobrau Gwir Flas -  wedi dod â’u harbenigedd ynghyd i wneud sorbet o Cothi Gold, cwrw diweddaraf y bragdy.
 
Daeth y syniad am y cydweithio mewn noswaith ddiweddar a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a pherchnogion bwytai ym mwyty gwobrwyol Y Polyn ger Nantgaredig.
 
“Cawsom sgwrs dros ginio a chanfod fod gennym lawer yn gyffredin,” meddai Tracey Kindred sy’n rhedeg Heavenly a hefyd Westy a Bistro’r Angel yn Llandeilo gyda Paul ei gwr.
 
“Rydym eisoes yn gwerthu cwrw Ffosyffin ac yn Heavenly rydym yn hoffi arbrofi felly fe wnaethom feddwl y byddem yn dod â’r ddau ynghyd a pharatoi rhywbeth ar gyfer Dydd Gwyl Dewi.”
 
Mae ‘Heavenly’ yn adnabyddus am greu hufen iâ unigryw ac arbennig a wneir mewn ‘labordy’ arbennig ar y safle, lle medrant greu unrhyw flas y mae’r cwsmer ei eisiau gyda dim ond 48 awr o rybudd.
 
Mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer Pasg hefyd gydag amrediad o hufen iâ thema yn cynnwys Teisen Grawys gyda Marzipan, Wy Hufennog a phice ar y maen.
 
 
Cychwynnodd Bragdy Ffos y Ffin yng Nghapel Dewi yn 2005, pan benderfynodd dau gyfaill  Glyn Lenton a Steve Smith, gynhyrchu eu cwrw yn fasnachol.
 
Yn seiliedig ar fferm laeth, mae’r bragdy bychan yn cynhyrchu amrediad o gwrw go iawn mewn potel a chasgen, yn cynnwys cwrw chwerw euraid blas ffrwythau Cothi Gold, Paxtons Pride, Towy Ale, Three Arches, Dylans Choice a Cwrw Caredig.
 
“Fe wnaethom gwrdd yn y cinio a phenderfynu fod hwn yn gyfle da i gynhyrchwyr lleol gydweithio,” meddai Steve Smith.
 
“Y noswaith yn Y Polyn oedd yr allwedd a gobeithio y bydd mwy o gynhyrchwyr lleol yn meddwl am gydweithio ar brosiectau a hoffem ddiolch i Barry Davies o Gyngor Sir Gaerfyrddin a Simon Wright yn Y Polyn.”
 
 
Gwahoddir y cyfryngau i weld y sorbet yn cael ei wneud. I gael manylion pellach cysyllter â Tracey Kindred ar 01558 822800
 
I gael mwy o wybodaeth am gynnyrch cysylltwch â:
 
Heavenly
Ty Llundain
Stryd Rhosmaen
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6EN
Ffôn: 01558 822 800
Cyswllt: Tracey Kindred
Gwefan: www.heavenlychoc.co.uk
 
Bragdy Ffos y Ffin
Capel Dewi
Sir Gaerfyrddin
SA32 8AG
Ffôn: 07838 384868
Cyswllt: Stephen Smith
Gwefan: www.ffosyffinbrewery.co.uk
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 27 February 2008