Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo Wyau pob organic
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Article title

Daioni Yn Codi Cynhgrair Gyda Chytundeb Premier

Full article

Mae sêr pêl-droed y dyfodol yn ychwanegu elfen arall i’w rhaglenni hyfforddi - blaslaeth organig Daioni.
 
Mae chwaraewyr academi ac ieuenctid yn academi pêl-droed Clwb Pêl-droed Chelsea yn yfed Daioni fel rhan o gytundeb cyflenwi lle mae gan y diodydd a gynhyrchir yn Sir Benfro ran bwysig yn eu paratoadau ar gyfer gemau.
 
Gwneir amrediad Daioni gan Trioni Cyf, busnes ffermio teuluol a enillodd wobrau Gwir Flas. Lansiodd Trioni Cyf ei flaslaeth organig yn 2003, i ddechrau i roi dewis heblaw’r diodydd pefriog llawn siwgr oedd ar gael yn gyffredinol i blant.
 
Ar gael mewn pedwar blas - siocled, mefus, banana a llugaeron a mafon cochion - mae’r diodydd yn isel mewn braster a siwgr heb unrhyw liwiau artiffisial neu gadwolion, a dywedwyd eu bod yn lluniaeth ddelfrydol i chwaraewyr blaenllaw.
 
Dywedodd Nick Broad, Prif Faethydd Clwb Pêl-droed Chelsea, “Medrir disgrifio llaeth fel y ddiod adferiad berffaith. Mae nifer fawr o astudiaethau gwyddonol yn ddiweddar wedi disgrifio manteision yfed llaeth cyn ac ar ôl sesiynau hyfforddi.
 
“Fel diod laeth organig gyda blas gwych, mae blaslaeth Daioni yn ffordd gyfleus i’n chwaraewyr academi i helpu adfer eu cyhyrau ar ôl sesiynau hyfforddi a gemau caled a hefyd yn cyflawni athroniaeth faeth bwydydd cyflawn, glân Clwb Pêl-droed Chelsea.”
 
Dywedodd Laurence Harris, cyd-sefydlydd a rheolwr gyfarwyddwr Trioni: “Mae pawb ohonom yma ym mhencadlys Daioni, yn cynnwys staff y fferm, wrth eu bodd fod clwb gyda phroffil mor uchel â Chlwb Pêl-droed Chelsea wedi gofyn i ni gyflawni ein dewis o ddiodydd iach Daioni i’w Hacademi.
 
 
“Cydnabyddir fod gan fwydydd a diodydd iach ran bwysig ym mhob maes o fywyd. Mae’r gymeradwyaeth hon gan Academi Clwb Pêl-droed Chelsea yn newydd da i bawb ohonom yn y gadwyn gyflenwi neilltuol hon, a hefyd y rhai sy’n ceisio darbwyllo defnyddwyr o bob oedran am werth y ddiet gywir.”
 
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig, “Mae cytundeb Trioni gyda Chlwb Pêl-droed Chelsea yn enghraifft arall eto o entrepreneuriaeth cynhyrchwyr Cymru a’r parch mawr sydd gan pob sector diwydiant a busnes at ein cynnyrch. Mae gennym draddodiad balch ym maes chwaraeon yng Nghymru ac rwy’n hynod falch fod Daioni yn helpu i roi maeth i dalent chwaraewyr ifanc”.
 
Mae clwb pêl-droed Tottenham Hotspur, Undeb Rygbi Cymru a nifer o’r prif glybiau rygbi ymysg y rhai sy’n canmol Daioni, ac mae tîm pêl-droed Premier arall, Bolton Wanderers, hefyd wedi mynegi diddordeb mewn sicrhau’r diodydd i’w chwaraewyr.
 
Wedi’u treialu i ddechrau mewn ysgolion yn Sir Benfro, mae Daioni bellach ar gael ar draws Prydain yn ogystal ag yn Dubai, Iwerddon, Gwlad Groeg, Malta, Cyprus ac Awstralia, ac fe’i henwyd y ddiod orau i blant yn y gwobrau Rhagoriaeth mewn Bwydydd a Diodydd gan gylchgrawn The Caterer and Hotelkeeper.
 
Dros yr wythnosau i ddod bydd Trioni yn arddangos drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn dwy sioe fasnach fwyd fawr - Hotelympia yn Llundain (17-21 Chwefror) yn Alimentaria yn Sbaen (10-14 Mawrth).

I gael manylion pellach am gynnyrch cysyllter â:
 
Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt Teleri Thomas

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 15 February 2008