 |
- Cynhyrchwyr O Gymru Yn Helpu'r Byd I Ddathlu Dydd Gwyl Dewi
|
 |
|
 |
- Article title
Cynhyrchwyr O Gymru Yn Helpu'r Byd I Ddathlu Dydd Gwyl Dewi- Full article
- O Gaerdydd i Galifornia a Brwsel i Boston, mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt i ddathlu Dydd Gwyl Dewis ym mhedwar ban byd gyda digwyddiadau arbennig yn rhoi sylw i fwydydd a diodydd o Gymru.
Mae Wythnos Cymru yn yr Unol Daleithiau (20-29 Chwefror) yn ymestyn o arfordir y dwyrain i arfordir y gorllewin. Mae’r wythnos a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys digwyddiadau bwyd, celfyddydau, cerddoriaeth, busnes ac academaidd a drefnwyd yn Efrog Newydd, Boston ac am y tro cyntaf, Los Angeles. Daeth bwydydd a diodydd Cymreig ar gyfer y digwyddiadau hyn o nifer o siopau blaenllaw yn Efrog Newydd yn cynnwys Chelsea Market Baskets, Zabar’s a Wholefoods. Bydd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog, yn mynychu nifer o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos, yn cynnwys cinio canol-dydd ‘Cymru ar Wall Street’ (27 Chwefror) i bobl busnes yn gweithio yn ardal ariannol enwog Efrog Newydd. Yn nes ymlaen yn y dydd bydd Mr Jones, sy’n Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gyd-lywydd derbyniad Dydd Gwyl Dewi yn Efrog Newydd gyda Syr Howard Stringer, cadeirydd a phrif swyddog gweithredol Corfforaeth Sony, sy’n hanu o Gaerdydd. Bydd amrywiaeth o luniaeth o Gymru ar gael yn y derbyniad (27 Chwefror) gydag adloniant gan Caryl Parry Jones a Chôr Siambr y Drindod. Ar 22 Chwefror yn Efrog Newydd, bydd darlith ar gasgliadau Llyfgell Genedlaethol Cymru - Trysorau Cymru - gyda bwydydd a diodydd o Gymru ar gael. Yn ddiweddarach yn yr wythnos (27 Chwefror), gall academyddion ddysgu mwy am Gymru mewn derbyniad min nos ym mhreswylfa Conswl Cyffredinol Prydain yn Los Angeles. Y trannoeth (28 Chwefror), cynhelir cinio Cymreig yn Efrog Newydd i ohebwyr bwyd a diod ym mwyty Gordon Ramsay at the London gyda Norma Barry o Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Emyr Griffith o grwp gwestai elite Cymru, Welsh RareBits. Paratoir y cinio gan y chef ymgynghorol o Gymru, Nerys Howells, ac fe’i cefnogir hefyd gan Croeso Cymru, adran twristiaeth y Cynulliad. Hefyd ar 28 Chwefror, bydd The Hurns Brewing Company o Abertawe yn lansio ei amrediad o gwrw Tomos Watkin yn Boston. Dywedodd Connie Parry, cydberchennog Hurns, “Rydym wrth ein bodd i gyflwyno ystod cwrw gwobrwyol Cymreig Tomos Watkin i’n cefndryd yn America. Rydym wedi sicrhau contract ecsliwsif i gyflenwi 50 Talaith yn America drwy St. Killian/L.Knife & Son. Mae hwn yn gyfle gwych i’n Cwmni.” Ar 29 Chwefror gwahoddir cysylltiadau busnes yn cymryd rhan yng ngweithdy arddangos Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Boston i samplo cynnyrch Cymreig yn adeilad y Conswl Cyffredinol yn Boston. Ar noswyl (29 Chwefror) Dydd Gwyl Dewi, bydd Cymdeithas Dewi Sant yn Efrog Newydd yn cynnal ei chinio blynyddol yng Nghlwb Yale yn Efrog Newydd, lle bydd gwesteion yn mwynhau gwledd o fwydydd a diodydd Cymru. Caiff Medal Hopkins 2008 ei chyflwyno i’r gantores Williams yn y digwyddiad hefyd. Ar yr ochr hon o Fôr Iwerddon, bydd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan yn cymryd rhan mewn lansiad i’r wasg ar 25 Chwefror lle dangosir tlws ‘Cwpan Ryder yn Ewrop’ ym Mhwyllgor y Rhanbarthau gyda Luc Van den Brande, Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau. Bydd y lansiad i’r wasg hefyd yn gyfle i brofi cwrw o bob rhan o Gymru, gyda bragwyr gwobrwyol yn cynnwys SA Brains, Breconshire Brewery, Evan-Evans, The Hurns Brewing Company ac Otley. Y noswaith honno Le Bibliotheque Solvay ym Mrwsel fydd lleoliad derbyniad blynyddol Dydd Gwyl Dewi, a lywyddir gan Brif Weinidog Cymru. Mae Le Bibliotheque Solvay yng nghanol ardal Ewropeaidd y ddinas a bydd y derbyniad yn dangos rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau sydd ar gael yng Nghymru mewn digwyddiad fydd yn gyfle i godi proffil Cymru ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Paratowyd y fwydlen sy’n cynnwys cynnyrch a enillodd wobrau Gwir Flas yn 2007/08 gan yr awdur a’r ymgynghorydd bwyd Angela Gray a’r chef Hywel Jones, a fu’n chef mewn gwestai sêr Michelin. Mae Hywel, a fu’n gweithio fel chef de partie mewn dau fwyty gyda thair seren Michelin - Chez Nico ac ym Marco Pierre White’s - yn awr yn brif chef mewn bwyty newydd - Calon - yn ysgol bwyd a gwin gyntaf Cymru yng Ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg. Dywedodd y Prif Weinidog, “Mae miloedd o bobl ym mhedwar ban byd yn dathlu Dydd G?yl Dewi oherwydd bod ganddynt gysylltiad o ryw fath gyda Chymru. Mae’r dathliadau hyn yn gyfle gwych i ddiwydiant bwydydd a diodydd Cymru arddangos eu cynnyrch. Mae’n ddiwydiant egniol a chyffrous gyda gwir ymroddiad i flas, ffresni ac amrywiaeth.” Bydd y gwesteion - yn cynnwys Comisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd, Llysgenhadon, Aelodau Seneddol Ewropeaidd a chyfeillion Cymru - yn mwynhau seigiau megis ffriteri cranc a chorn melys, rillette eog mwg poeth ac iogwrt gyda relish betys ar fyffins bwyd cyflawn, ffiled cig eidion gwartheg duon Cymru gyda madarch shitake organig a sbigoglys gyda menyn, rac cig oen Cymreig gyda chrwst sbeislyd a phicl leim. Mae canapés pwdin yn cynnwys lolipops triwffl wisgi Penderyn a brulees cyffug a jam eirin. Yn y cyfamser ar gyfer Dydd Gwyl Dewi yn Llundain, bydd y wasg a’r cyfryngau’n derbyn hamperi o gynnyrch gwobrwyol y Gwir Flas. Bydd Cymdeithas Cymry Llundain yn cynnal ei dathliad blynyddol yn y Guildhall ar 3 Mawrth ac yn cynnwys seigiau Cymreig yn cynnwys bwrdd cawsiau gan Cheeses from Wales, llawer ohonynt wedi ennill y Gwir Flas. Bydd Cheeses From Wales hefyd yn cyflenwi caws i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar Ddydd Gwyl Dewi ar gyfer perfformiad gala o opera Falstaff gan Verdi gyda Bryn Terfel yn y brif ran. Ar 1 Mawrth hefyd lansir ail farchnad ffermwyr Caerdydd, Marchnad Gwir Fwyd y Rhath. Mae’r farchnad newydd yn dilyn Marchnad Glanyrafon wobrwyol y brifddinas, ac fe’i sefydlwyd mewn ymateb i siopwyr Caerdydd am fwy o fwyd lleol a chynnydd yn nifer y cynhyrchwyr sy’n diwallu’r galw. Bydd amrediad eang o fwydydd ffres a blasus a bwydydd organig o Gymru ar gael mewn awyrgylch cyfeillgar. Bydd bwyd o Gymru hefyd ar y sgrin fach, gyda rhaglen Dydd Gwyl Dewi arbennig ar y sianel siopa deledu QVC. Mae sioe ‘Gwir Flas Cymru’ a ddangosir am 12 canol-dydd ar 1 Mawrth yn cynnwys cynnyrch gan Welsh Farm Organics, Harvies Pies, Clam’s Handmade Cakes, a Cheeses From Wales. Mae prifysgolion Cymru yn cynnal wythnos gwyl fwyd Croeso i Gymru yn yr wythnos cyn dydd Gwyl Dewi (25 Chwefror - 1 Mawrth). Mae’r fenter yn torri trwy newydd drwy fod y tro cyntaf i un digwyddiad hyrwyddo bwyd gael ei lansio ar draws sector cyhoeddus cyflawn. Mae aelodau Consortiwm Prynu Addysg Uwch Cymru wedi lansio wythnos gwyl fwyd ‘Croeso i Gymru’ i roi sylw i fwydydd o Gymru ac annog mwy o fyfyrwyr i ddewis bwyd a gynhyrchwyd yn lleol yn ffreuturau’r prifysgolion.
- Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 21 February 2008
|
|
 |