Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
wy organig wedi?i ferwi Crempog Cocos
Meringues cnau cyll gyda hufen ffres a ffrwythau meddal
Article title

Selsig Edwards o Gonwy yn llwyddiant mawr ar gownteri Tesco

Full article

Bydd y rhai sy’n hoff o selsig traddodiadol wrth eu bodd bod y cigydd gwobrwyol Edwards o Gonwy yn lansio amrediad newydd o gynnyrch gyda Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru (23-26 Gorffennaf).

Mae’r cwmni eisoes yn cyflenwi selsig wedi’u pacio ymlaen llaw i Tesco, ac fel rhan o’r cytundeb newydd hwn bydd chwe chynnyrch newydd yn cael eu gwerthu ar gownteri rhydd yr archfarchnad, gan roi hyd yn oed fwy o ddewis i gwsmeriaid.

Caiff y selsig a’r cig moch eu lansio yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf, a byddant yn mynd ar werth yr un pryd mewn 15 stôr Tesco yn Ne Orllewin a Gogledd Cymru.

Dywedodd Ieuan Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni a Llysgennad Gwir Flas 200506: “Rwy’n hynod falch i gael y cyfle i gyrraedd cynulleidfa eang gyda’n cynnyrch sydd wedi ennill gwobr aur.

“Rydyn ni wedi yn cyflenwi selsig wedi’u pacio ymlaen llaw i Tesco ers nifer o flynyddoedd a  nawr bydd cwsmeriaid yn cael cyfle i brynu ein cynnyrch o gownteri cig ffres Tesco hefyd.”

Aiff pedwar math o selsig - Porc Traddodiadol, Chipolata Parc Traddodiadol, Porc a Chennin, a Phorc gyda Phupur Du - ar werth yr wythnos nesaf ynghyd â Chi Moch Cefn Plaen a Chig Moch Blas Mwg y cwmni.

“Caiff y selsig eu gwneud o’r porc ysgwydd gorau a chyfuniad cyfrinachol o berlysiau a sbeisys,” meddai Ieuan, mab fferm o Gonwy a agorodd ei siop cigydd gyntaf pan oedd ond 21 oed.

“Cânt eu cymysgu’n draddodiadol mewn sypynnau bach er mwyn cadw ymddangosiad ‘selsig cigydd’ traddodiadol. Maent oll o rysáit llai o fraster a chânt eu gwneud gyda chrwyn naturiol.”

Mae’r cwmni wedi ennill nifer fawr o wobrau gan y diwydiant a beirniaid bwyd, yn cynnwys gwobrau aur y Gwir Flas ac yn fwyaf diweddar wobr Great Taste am ei Selsig Porc gyda Phupur Du.

Bydd amrediad Edwards o Gonwy ar gael i’w blasu a’u prynu yn stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

I gael gwybodaeth bellach am y cynnyrch cysylltwch â:

Edwards o Gonwy
18 Stryd Fawr,
Conwy,
 LL32 8DE
Cyswllt: Ieuan Edwards
Ffôn: 01492 592443 neu 01492 576800 Symudol 07803 498 326
E-bost: sales@welshsausages.co.uk hefyd  sales@edwardsofconwy.co.uk
Gwefan:  www.welshsausages.co.uk hefyd www.edwardsofconwy.co.uk

Tesco
Cyswllt: Joanna Keohane
Ffôn: 01992 644 328
E-bost: joanna.keohane@uk.tesco.com

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 19 July 2007