Bydd ymwelwyr i’r Neuadd Fwyd yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (23-26 Gorffennaf) yn Llanelwedd unwaith eto yn cael gwledd, wrth i gynhyrchwyr bwyd a diod ddangos rhai o’r cynnyrch gorau o bob rhan o Gymru.
O gynnyrch organig a llaeth i gig, hufen iâ, teisennau a diodydd, mae gan y Neuadd Fwyd fwy na 50 o stondinau yn gwerthu amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd.
Mae’r Neuadd Fwyd, a drefnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn enwog am safon uchel ac amrywiaeth ac mae’n un o’r atyniadau hanfodol i’r rhai sy’n mynychu’r Sioe, gyda llawer o’r cwmnïau’n arddangos enillwyr gwobrau pwysig y Gwir Flas.
Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan mae Adwell Foods/Tê Cymreig, sy’n ymwelwyr cyson â’r Sioe. Eleni bydd y cwmni o Abertawe yn cyflwyno mathau newydd o flychau te gyda Earl Grey a the Brecwast Seisnig yn ogystal â chysyniad pecyn newydd mewn d?r ffynnon, dan label brand Three Wells.
Bydd Calon Wen, yr hufenfa gydweithredol ddeinamig, yn arddangos ei Eco Packs. Mae’r pecynnau hyn yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd a medrir eu hailgylchu. Maent yn defnyddio llai o blastig na pholibotel ac yn cymryd llai o le yn y bin ailgylchu.
Ar stondin Caroline’s Real Bread bydd dewis o deisennau hufen a theisennau caws ynghyd â focaccia newydd - cnau pîn a pesto - a bydd Celtic Country Wines yn arddangos ei win port ysgawen Cymreig newydd a gwell a ‘Brandi Seidr’ Celtic Pride a wneir o seidr Cymreig.
Bydd Condessa, cwmni gwirodydd o Ynsy Môn, yn dangos blwch rhodd dwyieithog newydd gyda map o Ynys Môn am y tro cyntaf.
Bydd Dairy Farmers of Britain, hufenfa gydweithredol o eiddo ffermwyr, yn arddangos eu brand Cymreig, Cadog, sy’n cynnwys menyn, llaeth a chaws.
Lansir tri math newydd o paté a phryd parod gan Romy Cuisine, sy’n cyfuno blas Ffrengig a chynhwysion Cymreig. Bydd paté newydd madarch y goedwig, paté Caerffili a phate iau hwyaden ar gael ynghyd â stiw cyw iâr ac olewydd
Gall ymwelwyr flasu cyn prynu yn stondin Goats From Wales. Mae’r fenter gydweithredol newydd i rai sy’n bridio geifr yn hyrwyddo a marchnata cig geifr ei aelodau, sydd ar gael mewn amrywiaeth o olwythion.
Bydd Kid Me Not, cwmni melysfwydydd a wneir o laeth gafr, yn lansio caws a fydd ar werth gyda’i amrediad sefydledig o gyffug a diodydd llyfn probiotig. Gwnaed y caws llaeth gafr mewn cysylltiad gyda Chwmni Caws Sir Gâr.
Mae Llaeth y Llan o Sir Ddinbych wedi hen arfer arddangos yn y Neuadd Fwyd a byddant yn dangos eu potiau iogwrt ffrwythau a brand dwyieithog newydd.
Bydd y melyswyr Pemberton’s yn lansio tryfflau fodca taffi a wneir yn defnyddio fodca taffi gan Toffoc, cwmni o Ynys Môn.
Bydd gan Popty Cara o Sir Benfro fath newydd o deisennau cri sawrus ynghyd â phwdin syrup newydd.
Ar stondin Premier Welsh Hampers Cyf arddangosir yr ychwanegiad diweddaraf i’w amrediad o gynnyrch Cymreig - Dewi Sant, caws meddal arddull brie wedi’i olchi mewn medd, a wneir gan Gaws Ffermdy Pant Mawr.
Bydd Ralph’s Cider, un arall o selogion y Neuadd Fwyd, yn arddangos ei wirod Newydd - Celtic Pride - cyfuniad o seidr Ralph a brandi a wneir gan Celtic Country Wines.
Bydd Caws Iogwrt Organig Sanclêr, a lansiwyd yn Ffair Aeaf y llynedd, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Sioe Frenhinol. Mae gwreiddiau’r caws yn y Dwyrain Canol, a daw mewn tri math - naturiol, gyda basil a garlleg, a gyda sifi. Fe’i gwneir gyda llaeth Cymreig organig.
Hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Neuadd Fwyd mae’r Blaenafon Cheddar Company a ffurfiwyd chwe mis yn ôl. Mae’n cynhyrchu 10 math gwahanol o gaws Cheddar a phedwar caws gafr, oll wedi’u gwneud o laeth Cymreig. Caiff ei gaws cheddar aeddfed ei aeddfedu ym mherfeddion glofa amgueddfa Pwll Mawr gerllaw.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company yn arddangos ei Baté Brandi Cyw Iâr a Pherlysiau Organig newydd, ac yn cyflwyno rhifyn arbennig o’i Baté Cyw Iâr, Madarch a Garlleg.
Dim ond o Neuadd Fwyd Langford yn y Trallwng neu siopau Tesco fel arfer y mae’n bosibl prynu Selsig Draig Goch The Welsh Sausage Company, ond byddant yn gwneud ymddangosiad arbennig yn y Neuadd Fwyd.
Wedi’i ysbrydoli gan ddiod alcoholig ar gael ar lethrau sgïo’r Alpau, mae Toffoc Cyf o Sir Fôn wedi datblygu fodca gyda blas taffi, a fydd ar gael am y tro cyntaf yn y Sioe.
Bydd Llanfaes Dairy, cynhyrchwyr hufen iâ o Aberhonddu, yn dangos ei flas newydd arbennig ar gyfer y sioe - Royal Welsh Crunch, sy’n cynnwys caramel gyda diliau mêl a chnau, ynghyd ag ychwanegiad newydd “Mêl Cymreig” a wneir o fêl lleol.
Yn y Neuadd Fwyd am y tro cyntaf fydd Cowpots sy’n gwneud hufen iâ moethus o fuches y fferm o wartheg llaeth Jersey, gan gyfuno’r llaeth gyda hufen dwbl.
Y tu allan i’r Neuadd Fwyd mae’r ardal Dairlylicious, lle gall ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwydiant llaeth Cymru a’i amrediad eang o gynnyrch. Medrant gwrdd â chynhyrchwyr llaeth, blasu cynnyrch, edrych ar arddangosiadau coginio a hyd yn oed weld sut y gwneir caws.
Gwybodaeth bellach: Sheila Coleman 01792 817532/07968 357474