Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
wy organig wedi?i ferwi caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Article title

Cwmni o Gymru yn taro 'olew' yn y digwyddiad bwyd rhyngwladol

Full article

Gall cogyddion sy’n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol yn y gegin yn awr brofi amrediad o olewau ‘anarferol’ gan y cwmni Cymreig newydd Calon Lân Cyf.

Bydd y cwmni o Sir Fôn yn lansio ei amrediad o olewau yn y Digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol (IFE), arddangosfa bwydydd a diodydd fwyaf Prydain a gynhelir yn Excel yn Llundain (18-21 Mawrth).

Mae’r olewau - sy’n cynnwys cywarch, afocado a camelina yn dod mewn poteli dwyieithog deniadol. Disgrifir yr olew campelina fel ‘beiddgar gydag ychydig o agwedd’, tra bod yr afocado yn ‘cain, swynol ac o mor llyfn’ a’r cywarch fel ‘melys, â blas cnau ac yn barod i’r parti!’

Er y gall defnyddwyr fod yn gwybod am nodweddon coginiol olew a ddaw o afocado neu gywarch, mae olew camelina yn gymharol ddiarth yn y gegin.

Gyda’i wreiddiau yn ardal y Môr Canol, mae’n edrych fel croes rhwng hadau llin a hadau rêp, gyda blodyn melyn amlwg. Mae olew camelina yn uchel mewn asidau  brasterog omega 3 hollbwysig a hefyd fitamin E, mae’r olew yn isel mewn braster dirlawn, gan ei wneud yn ddewis iach ar gyfer defnyddwyr heddiw.

“Mae’n dda iawn ar gyfer coginio ac mae ganddo bwynt mygu cymharol uchel, yn debyg i olew’r olewydd,” meddai Geraint Hughes, Cyfarwyddwr Calon Lân. “Yn wir dylid trin olew camelina yr un fath ag olew’r olewydd ac mae’n wych ar gyfer dipiau, dresin salad a sawsiau pasta - medrir hyd yn oed ei ddefnyddio mewn rysetiau ar gyfer cawl a diodydd llyfn.”

Mae’r cwmni o Langefni yn bartneriaeth rhwng Geraint Hughes, cyn reolwr y Ganolfan Defnydd Tir Amgen ym Mhrifysgol Cymru Bangor ac asiantaeth Menter Môn. Derbyniodd y fenter gyllid gan gynllun LEADER+ y Gymuned Ewropeaidd sy’n cynorthwyo cymunedau gwledig.

Mae Geraint wedi defnyddio ei wybodaeth o ffermio tir âr a chnydau amgen i greu Calon Lân ac yn yr ychydig wythnosau nesaf bydd ffermwyr yn Sir Fôn yn plannu cnydau o camelina a chywarch, gyda’r nod o gynhyrchu’r olewau yn lleol.

“Rydym yn marchnata ein holew fel bod yn fwydydd anghyffredin a bu’r gefnogaeth ac ymateb a gawsom yn wych.”

Mae olewau Calon Lân ar gael ar hyn o bryd mewn siopau annibynnol yng Ngogledd Cymru, a chânt hefyd eu defnyddio gan nifer o fwytai yn yr ardal.

Hefyd ar gael yn yr IFE am y tro cyntaf fydd Dukkah - bwyd grawn a wneir o hadau, sbeisys a halen ac sy’n tarddu o ardal y Môr Canol.

“Unwaith eto caiff ei wneir o hadau camelona ynghyd â mintys, pupur a Halen Môn - yn ddelfrydol fel dip neu i’w rwbio i gig,” meddai Geraint.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

Calon Lân Cyf
Llys Goferydd
Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA
Ffôn: 01758 612621
E-bost: geraint@madryn.co.uk
Cyswlltt:Geraint Hughes


Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 14 September 2007