Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Ffagots gyda stwnsh pys a mint Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Crempog Cocos
Article title

Blawd o Gymru yn ychwanegu sbeis i fyns croes boeth yn Rwsia

Full article

Eisoes yn cael ei ddefnyddio gan lawer o chefs a bwytai blaenllaw Prydain, bydd blawd organig Melin Dd?r Bacheldre yn mynd ar werth yn un o brif storau Rwsia mewn pryd ar gyfer y Pasg.

Caiff y blawd ei wneud gan y melinwyr gwobrwyol Matt ac Anne Scott yn eu melin hynafol ger Trefaldwyn a bydd ar gael yn fuan ym Moscow drwy Globus Gourmet. Wedi’i ddewis gan gylchgrawn The Grocer fel y 12fed stôr orau yn y byd, mae gan Globus Gourmet ddeg cangen ar draws y ddinas.

“Ar wahân i Iwerddon, dyma’r tro cyntaf i ni allforio a chawsom yr archeb yn uniongyrchol gan Globus Gourmet a oedd wedi gweld ein blawd yn Harrods,” meddai Matt Scott. “Byddant yn cymryd wyth math gwahanol o’n blawd, a dylent eu cyrraedd mewn pryd ar gyfer y Pasg.”

Hefyd yn dangos yr Arddangosfa Fwyd Ryngwladol (IFE) a gynhaliwyd yn Llundain ddechrau mis Mawrth, bydd blawd y cwpl yn cael eu hallforio i Ynysoedd y Seychelle, ynghyd â phosibilrwydd archebion o Lychlyn a Dubai. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill gyda dosbarthwyr ym Mharis a Singapore.

Dywedodd Matt, “Mae’n amser prysur iawn i ni, rydym yn mynd drwy gam enfawr o dwf ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol y busnes a’r brand.”

Defnyddir offer traddodiadol a gaiff ei weithio gan dd?r a thrydan a grawn a hadau organig o’r safon uchaf i gynhyrchu 13 math gwahanol o flawd, sydd wedi eu cymeradwyo gan Gymdeithas y Pridd.

Arferai Anne a Matt ill dau weithio i’r Post Brenhinol, a dim ond ers pedair blynedd y buont yn melino. Ers hynny mae blawd Melin Dd?r Bacheldre wedi ennill nifer fawr o wobrau, yn cynnwys llu o wobrau Gwir Flas - yn cynnwys gwobr aur yn ddiweddar am eu pecynnau blaengar yn cynnwys cyfres o gardiau rysáit a gymeradwywyd gan chefs enwog a gwobr arian am eu ‘Blawd Brag 6 Hedyn’.

“Drwy ennill gwobr Gwir Flas, rydym wedi manteisio ar farchnata ardderchog ar ein cynnyrch a bu Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gefnogaeth fawr, ac wedi’n helpu i wneud ein busnes yn llwyddiant,” meddai Matt.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

0Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
SY15 6TE
Ffôn: 01588 620489
E-bost: info@bacheldremill.co.uk
Gwefan: www.bacheldremill.co.uk
Cyswlltt: Matt & Anne Scott

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 29 March 2007