Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Bara lawr ffres gyda lemon
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Article title

Cwmniau Cymru I Wneud Eu Marc Yn Y PLMA

Full article

Bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn ymuno â chwmnïau tebyg o bob rhan o Ewrop yn Amsterdam nes ymlaen y mis hwn (27-28 Mai) mewn digwyddiad arbenigol i’r diwydiant.
Cynhelir arddangosfa PLMA (‘Private Label Manufacturers Association’) yng Nghanolfan Gynadledda RAI ger prifddinas yr Iseldiroedd. Mae’n ddigwyddiad arbennig ar gyfer cwmnïau bwyd a diod a phrynwyr mânwerthu a gwasanaeth byd safon uchel o Ewrop sy’n edrych am gynnyrch a chyflenwyr newydd ar gyfer brandiau eu label eu hunain.
Wedi’i threfnu gan Fusnes Rhyngwladol Cymru ar ran Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r cwmnïau o Gymru sy’n dangos eu cynnyrch a gwasanaethau yn cynnwys: Halo Foods Cyf, Radnor Hills Mineral Water Ltd, Evan Rees (Butter) Cyf, The Serious Food Company a The Real Crisp Company.
Bydd Evan Rees (Butter) Cyf o Abertawe yn ymddangos am y tro cyntaf mewn arddangosfa gan y diwydiant bwyd mewn bron 20 mlynedd o fasnachu. Y paciwr menyn annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, mae Evan Rees yn cyflenwi ei fenyn brand a label eu hunain i lawer o’r prif archfarchnadoedd. Cafodd brand menyn Hollybush y cwmni ei ailwampio’n sylweddol yn ddiweddar ac mae newydd lansio fersiwn 250g rhwydd ei daenu - Hollybush Spreadable.

Bydd Halo Foods yn arddangos gallu ei gynnyrch snacfariau iach a naturiol. Mae’r cwmni yn flaenllaw wrth ddatblygu cynnyrch ac mae’n cyflenwi llawer o frandiau adnabyddus a chynnyrch label eu hunain i lawer o brif adwerthwyr y stryd fawr. Mae ei ystod amrywiol o gynnyrch yn cynnwys detholiad o opsiynau technegol-ddatblygedig i gymryd lle prydau, bariau ffrwythau a Masnach Deg, a gall llawer ohonynt fod wedi’u gorchuddio’n gyfangwbl mewn siocled neu iogwrt, neu gyda’r sylfaen neu’r ysgwydd yn unig wedi’u gorchuddio. Mae’r mathau fydd ar gael yn y PLMA yn cynnwys bariau llugaeron a hadau mewn siocled llaeth; bariau ffrwyth bricyll, llugaeron a llus mawr, bar Toffee Whip mewn haen o siocled, ciwbiau llus mawr a chnau almon mewn iogwrt a bariau bricyll a mango Masnach Deg mewn siocled llaeth.

Real Crisps o Gasnewydd yw’r ailgynhyrchydd creision mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gwneud cynnyrch label preifat ar gyfer nifer o enwau’r stryd fawr, yn ogystal ei frandiau ei hun Real Crisps a REAL. Chips. Yr ychwanegiad diweddaraf i’r amrediad yw sglodion llysieuol, sydd ar gael mewn dau fath - Sglodion Panas a Sglodion Llysiau Cymysg, sy’n cynnwys moron, betys coch, bannas a thatws melys. Mae Real Crisps yn rhan o Gr?p Tayto a gall y gr?p hefyd gynnig bron unrhyw fath cynnrych sydd ar gael yn y farchnad.

Mae Radnor Hills Mineral Water Cyf, cynhyrchydd d?r potel, yn cadw ei lygad ar ei ôl-troed carbon.Mae’r cwmni o Bowys wedi gosod technoleg poeth-lenwi PET newydd a pasteureiddwyr twnnel i’w alluogi i gynhyrchu diodydd hollol naturiol heb unrhyw gadwolion ac mae wedi gostwng faint o PET sydd yn ei boteli i’r isafswm posibl. Bydd Radnor Hills, sy’n cynhyrchu amrediad o flasau d?r mwynol a d?r â blas yn arddangos Aqua 50, diod newydd sy’n cynnwys 50% sudd a 50% d?r. Mae ar gael mewn tri chyfuniad, lemon a leim, cyrens duon ac afal, a grawnffrwyth gwyn a chyrens cochion.

Yn ymddangos am y tro cyntaf yn PLMA bydd The Serious Food Company. Bydd y cwmni o Lantrisant yn canolbwyntio ar ei amrediad o ddiodydd llyfn a sudd.
SFC yw’r unig gwmni yn y Deyrnas Unedig sy’n gwasgu sudd orenau ffres a diodydd llyfn yn ddiwydiannol a hwy yw’r unig gwmni yn y byd i ennill y Wobr Fyd-eang am Arloesedd ar ddau achlysur. Mae’r cwmni’n cyflenwi pob math o sudd yn cynnwys sudd ffres ei wasgu ac amrediad helaeth a blaengar o ddiodydd llyfn.

I gael gwybodaeth bellach am gynnrych cysylltwch â:

Halo Foods Cyf
Tywyn
Gwynedd
LL36 9LW
Ffôn:01654 711171
E-bost: paulcartwright@halofoods.co.uk
Gwefan: www.halofoods.co.uk
Cyswllt: Paul Cartwright

Radnor Hills Mineral Water Cyf
Heartsease
Trefyclo
Powys
LD7 1LU
Ffôn: 01547 530 220
E-bost: penny@radnorhills.co.uk
Gwefan: www.radnorhills.co.uk
Cyswllt: Penny Butler

Evan Rees (Butter) Cyf
2 Viking Way
Abertawe
SA1 7DA
Ffôn: 01792 310567
E-bost: dc@evanrees.com
Gwefan: www.evanrees.com
Cyswllt: Daniel Carman

The Serious Food Company
Parc Busnes Llantrisant
Llantrisant
Rhonda Cynon Taf
CF71 7NE
Ffôn: 01443 237222
E-bost: john.hawkins@seriousfood.co.uk
Gwefan: www.seriousfood.co.uk
Cyswllt: John Hawkins

The Real Crisp Company
Unedau 17 & 18
Heol Willow
Stad Ddiwydiannol Pen-y-fan
Crymlyn
Casnewydd
Gwent
NP11 4EG
Ffôn: 01495 241960
E-bost: sales@realcrisps.com
Gwefan: www.realcrisps.com
Cyswllt: Sarah Wenham

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 16 May 2008