Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Crempog Cocos Caws Pob
Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Article title

Hong Kong i gael blas o Gymru yn Hofex

Full article

Bydd cwmnïau bwyd a diod Cymru yn arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa ryngwladol yn Hong Kong yr wythnos hon (13-16 Mai) yn Hofex, prif sioe fasnach a lletygarwch Asia.

Gwelir Hofex, a gynhelir yng Nghanolfan Confensiynau ac Arddangosfeydd Hong Kong, fel y llwyfan masnach fwyaf effeithlon ar gyfer cynnal busnes yn Asia, ac yn 2005 bu’r nifer fwyaf eto o 28,604 o ymwelwyr masnach yn y digwyddiad dwyflynyddol.

Wedi’u drefnu gan Busnes Rhyngwladol Cymru ar ran Isadran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd pedwar cwmni o Gymru yn arddangos dan faner y Gwir Flas: Trioni Cyf, The Goodcarb Food Company Cyf, Cwmni Halen Môn a Ty Nant Spring Water Cyf.

Bydd Cwmni Halen Môn yn arddangos ei ddewis o halen môr a phupur du yn ogystal â bara lawr. Tra byddant yn Hong Kong, bydd y cwmni yn cwrdd ag un o brif chefs yr ardal, Richard Ekkebus o westy adnabyddus Landmark Mandarin Oriental, sydd eisoes yn defnyddio Halen Môn.

Bydd  The Goodcarb Food Company  yn canolbwyntio ar ei gynnyrch snac newydd. Mae’r cwmni o Lanelli yn gwneud cynnyrch bwyd ansawdd uchel yn defnyddio cynhwysion naturiol sydd ag effaith bach iawn ar lefelau siwgr y gwaed. Mae’r holl gynnyrch yn GL 5.5 isel, yn rhyddhau egni yn araf, yn dda o ran siwgr gwaed ac yn rhydd o wenith. Yn seiliedig ar Granola, daw’r snaciau mewn tri math - siocled Belgaidd, leim a sinsir, a thriog a chnau pecan.

Bydd Trioni Cyf o Foncath yn arddangos ei amrediad Daioni poblogaidd o flaslaeth organig Cymreig. Mae blas newydd Llugaeron a Mafon Cochion yn ychwanegu at y blasau traddodiadol presennol o Siocled, Mefus a Banana. Bydd y cwmni hefyd yn ychwanegu at y cysylltiadau a wnaethant eisoes gydag adwerthwyr yn y rhanbarth.

Yn enwog am ei boteli eiconig glas a choch tywyll, bydd Ty Nant Spring Water Cyf yn arddangos ei amrywiaeth o dd?r mwyn llonydd a phefriog, yn cynnwys y botel PET grymog. Bydd hefyd yn dangos d?r mwyn TAU yn ei boteli unlliw ffasiynol a minimalaidd, sydd hefyd ar gael mewn mathau llonydd a phefriog.

Bydd Hybu Cig Cymru yn hyrwyddo cig oen o Gymru yn y digwyddiad. Bydd amrywiaeth o doriadau yn cael eu dangos ar y stondin a bydd staff HCC yn bresennol i gynnig cyngor a helpu darpar brynwyr, a all flasu danteithion Cig Oen PGI.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i brofi amrediad o gynnyrch o Gymru yn ystod sesiynau blasu arbennig drwy gydol y digwyddiad.

Yn ogystal â blasu cynnyrch gan y cwmnïau sy’n arddangos, gall ymwelwyr hefyd brofi cynnyrch sydd ar gael i’w prynu eisoes yn Hong Kong gan The Welsh Sausage Company, Rachel’s Organic Dairy,  Edwards o Gonwy, Wendy Brandon Preserves, Llanllyr Source Water a bydd Nerys Howell, yr ymgynghorydd bwyd, yn gwneud pice ar y maen fel rhan o’r sesiynau blasu.

Bydd deunydd ar y stondin hefyd yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr drwy Croeso Cymru a bydd 17 o sectorau busnes amlsector o Gymru, yn cynnwys Llanllyr Source Water, yn Hong Kong yr un wythnos ar Daith Fasnach a drefnwyd gan Busnes Rhyngwladol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu busnes newydd yn yr ardal.


MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost sheila@colemanroberts.co.uk


Hybu Cig Cymru
Blwch SP 176
Aberystwyth
SY23 2YA
Ffôn: 01970 625050
E-bost: enquiries@hccmpw.org.uk
Gwefan: www.hccmpw.org.uk
Cyswllt: Gwyn Howells

Cwmni Halen Môn  
Brynsiencyn  
Llanfair PG
Ynys Môn
LL61 6TQ  
Ffôn: 01248 430871  
E-bost: enq@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
Cyswllt: Alison Lea-Wilson

The Goodcarb Food Company
Blwch SP 94
Llanelli
SA15 4ZW
Ffôn: 01554 755009
E-bost: lizi@good-carb-food.co.uk
Gwefan: www.good-carb-food.co.uk
Cyswllt: Lizi Shaw

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Tel: 01239 682572
E-bost sales@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Laurence Harris

Ty Nant Spring Water Cyf
Bethania
Llanon
Ceredigion
SY23 5LS
Ffôn: 01974 272111
E-bost: info@tynant.com
Gwefan: www.tynant.com
Cyswllt: Laura Dodds


Distributed by:
Leigh Roberts
Coleman Roberts Communications
leigh@colemanroberts.co.uk
www.colemanroberts.co.uk
(01656) 788336/(07739) 511466

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 10 May 2007