CYHOEDDI ENWAU ENILLWYR
GWOBRAU’R GWIR FLAS
Cafodd rhagoriaeth ac arloesi yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru eu dathlu neithiwr (nos Iau 24 Tachwedd) yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru 2005-06.
Ystyrir Gwobrau’r Gwir Flas yn wobrau ‘Oscar’ y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac maent yn gyfle i ddathlu llwyddiant parhaol y diwydiant.
Roedd cwmnïau o bob maint ymysg yr enillwyr, gan gwmpasu pob maes o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Ymysg y cwmnïau a enillodd y gwobrau Aur yng Nghanolfan Mileniwm Cymru oedd The Fruit Garden Cyf, sy’n defnyddio ei ffrwythau ei hun i wneud amrediad eang o hufen iâ a sorbet a werthir dan yr enw Wild Fig. Enillodd y cwmni wobrau Aur yn y categori Cynhyrchydd a hefyd y categori Deunydd Pacio.
Hefyd yn ennill gwobr Aur yn y categori Cynhyrchydd oedd Siop Clwyd Fferm Yerbeston yn Sir Benfro. Mae’r cwmni yn hyrwyddo bwyd Cymreig, ac enillodd ei wobr am Stêc Ffiled Eidion Du Cymreig.
Yn y categori Organig roedd gwobrau Aur i House of Rhug o Sir Ddinbych am eu Oen Organig Cartref, ac i Hwyaden Muscovy gan Cambrian Organics Cyf, sy’n gwerthu hwyaid a fagir yn lleol dan ei frand newydd Cambrian Hills.
Roedd cydweithredu ar hyd y gadwyn fwyd yn fformiwla lwyddiannus i ffermwyr ar Stad Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin, a enillodd y tlws Aur am Bartneriaeth Ffermio. Gan weithio mewn partneriaeth gydag Oriel Jones, maent yn cyflenwi Oen Stad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dolaucothi i Sainsbury’s.
Wedi’i greu gyda golwg bendant iawn ar y farchnad letygarwch, TAU yw’r brand diweddaraf gan Ty Nant Spring Water Cyf ac enillodd wobr Aur yn y categori Gweithgynhyrchydd Mawr.
Ar ôl pedair degawd yn y busnes mae Welsh Lady Preserves o Bwllheli yn gwybod beth sy’n gwneud saws rhuddygl poeth da, a hwy oedd enillwyr y wobr Aur am Weithgynhyrchydd Maint Canolig.
Enillodd cynhyrchwyr bara a chwrw wobrau Aur yn y Categori Gweithgynhyrchydd Bach, gyda Bara Rhyg Efrog Newydd a wneir gan Caroline’s Real Brad Company yn ennill Aur a Chwrw Ysgafn Lambs Gold gan Fragdy Penlon Cottage yng Ngheredigion hefyd yn ennill gwobr Aur.
Enillodd Hughes Meats Company Cyf o Fangor wobr aur yn y categori Menter Bwyd Sector Cyhoeddus/Preifat. Mae’r cwmni yn cyflenwi eidion o farchnadoedd lleol i ysbytai ledled Gogledd Orllewin Cymru drwy eu partneriaeth gyda Cyflenwadau Iechyd Cymru a T H Sutcliffe.
Roedd pedair gwobr Aur yn y Categori Adwerthwr, yn adlewyrchu gwahanol agweddau o’r sector adwerthu. Enillodd Delicatesen Ultracomida o Arberth yn Sir Benfro y wobr Aur am Adwerthwr Annibynnol, enillodd Marchnad Ffermwyr Hwlffordd yn Sir Benfro y wobr Marchnad Ffermwyr, Welsh Farm Organics ym Mhowys enillodd y wobr Aur yn yr adran Gwe a Fferm Siop Swan yn Sir y Fflint y wobr Aur yn yr adran Siop Fferm.
Dewisir Llysgennad bob blwyddyn fel wyneb y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac enwyd Ieuan Edwards, cigydd o’r Gogledd, fel Llysgennad y Gwir Flas 2005-06.
Dim ond 21 oed oedd y mab fferm o Gonwy pan agorodd ei siop cigydd gyntaf. Ers hynny mae wedi llwyddo i adeiladu busnes llewyrchus - gan gynnwys uned cynhyrchu selsig - gan gyflogi dros 40 o staff a chyflenwi tua 6,000 o gwsmeriaid bob wythnos.
“Fel Llysgennad, fy neges fydd un am waith tîm a pha mor bwysig yw hi i gydweithio o lefel y Llywodraeth i lawr. Mae bwyd a diod Cymru yn y ffasiwn am y rhesymau cywir ac mae’n rhaid i ni fanteisio i’r eithaf am hyn,” meddai Ieuan.
Bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, mae’r gwobrau a drefnir gan Awdurdod Datblygu Cymru ymysg y gwobrau uchaf eu bri yn y diwydiant ac adlewyrchir y ffaith honno yn y nifer fawr o geisiadau a dderbynwyd eleni, yr uchaf eto.
Bu’r panel o feirniaid amlwg yn cynnwys chefs, ysgrifenwyr bwyd, perchnogion bwytai ac arbenigwyr yn blasu bron 500 o gynnyrch gan 177 o gwmnïau. Ar ôl cael eu barnu am eu sgiliau busnes, gostyngwyd nifer y ceisiadau i 37 ar gyfer y rownd derfynol.
“Llongyfarchiadau i holl enillwyr gwobrau eleni. Gwyddom y daw ennill gwobr Gwir Flas â chydnabyddiaeth brand hollbwysig a chyhoeddusrwydd gwerthfawr tu hwnt i’r holl enillwyr, a gwyddom o adborth enillwyr blaenorol y bydd hynny’n helpu i hybu eu busnesau,” meddai Arwyn Davies, Cyfarwyddydd Bwyd-Amaeth y WDA.
"Mae’r ffaith y medrant hefyd ddefnyddio logo’r Gwir Flas, sydd yn awr yn ennill cydnabyddiaeth fel arwydd bwyd a diod gwobrwyol, ar eu deunydd pacio a deunydd hyrwyddo arall, hefyd ychwanegu gwerth.”
Unwaith eto caiff y gwobrau eu noddi a’u cefnogi gan y cyfryngau, sefydliadau ffermio a’r diwydiant bwyd a diod sef: ITV Cymru, The Grocer, Hybu Cig Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a SPAR.
Bydd ITV1 Cymru yn darlledu’r seremoni wobrwyo mewn rhaglen arbennig awr o hyd ddydd Llun, 28 Tachwedd.
MANYLION PELLACH: Menna Evans, 01686 613175 / 07769 883266 neu Sarah Galloway, 02920 828945
I gael gwybodaeth bellach ar Wobrau’r Gwir Flas gweler www.cymruygwirflas.com.
BEIRNIAID
Roedd y beirniaid yn cynnwys y dilynol:-
Dudley Newbery, Tom Parker Bowles, Lynda Brown, Elisabeth Luard, Peter Jackson, Aylie Cooke, Guy Wooley, Roger Biddle, Julian Hunt, Mike Cook, Charles Campion, Jono Clark, Will Oakley, Marc Pasternac, Andrew Eliel, John Whiting, Martin Orbach, Rufus Carter, Lyndy Wildsmith, Glynn Christian, Paula Stain, Lorna Rhodes, Sara Jane Evans.