Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Ffagots gyda stwnsh pys a mint Crempog Cocos
dwr ffynnon gyda leim
Article title

Dwr Ffynnon Princes Gate yn enill Gwobr Werdd

Full article

Mae cwmni dwr ffynnon wedi’i botelu o Sir Benfro wedi ei anrhydeddu am ei arferion busnes cyfeillgar i’r amgylchedd yng Ngwobrau Busnes Cynaliadwyedd Cymru.

Derbyniodd Princes Gate Spring Water Cyf y wobr a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru am Ddiogelu Adnoddau Naturiol, am eu hymdrechion mewn bio-arallgyfeirio, gostwng y defnydd o ynni a rheolaeth ecolegol deunyddiau yn ystod y broses gweithgynhyrchu.

Sefydlwyd Gwobrau Busnes Cynaliadwyedd Cymru 10 mlynedd yn ôl ac maent yn dathlu busnesau ymwybodol o’r amgylchedd yng Nghymru.

Tyfodd Princes Gate Spring Water o gynllun arallgyfeirio fferm yn y 1990au gan y brodyr Glyn a David Jones, ac mae’r busnes teuluol o Arberth wedi defnyddio prosesau cynhyrchu amgylcheddol gadarn ers amser maith.

Yn ogystal â bod ag un o’r poteli ysgafnaf ar y farchnad, mae’r busnes yn defnyddio mesurau ailgylchu a chynllunio bio-arallgyfeirio mewn cysylltiad â Tir Gofal, cynllun amaeth-amgylchedd Cymru.

Mae busnes Princes Gate Spring Water yn tyfu bron deirgwaith yn gyflymach na’r farchnad d?r potel, heb ddangos unrhyw arwyddion o arafu.

Mae arddangos mewn digwyddiadau bwyd a diod megis y Sioe Fwytai dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu’r cwmni i ennill cydnabyddiaeth a busnes newydd ar draws Prydain.

Mae’r cwmni hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn y gymuned leol, megis cynnwys ysgolion lleol yn ei gynllun plannu coed.

“Mae’r busnes mor ymroddedig i’r amgylchedd fel bod hyn wedi llunio’r meddwl strategol tu ôl i ail-lansiad y brand yn ddiweddar,” meddai Nicola Merriman, Rheolwr Marchnata’r cwmni.

Yn wir mae hunaniaeth brand newydd Princes Gate wedi seilio ar y tir y caiff y dwr ei dynnu ohono ac ymrwymiad y cwmni i gael cyn lleied o effaith ag sydd bosibl ar y dirwedd a’r hinsawdd. Caiff yr ethos hwn ei grisialu ar slogan Princes Gate Spring Water: “Cyflwynwyd gan Gymylau. Hidlwyd gan Graig. Potelwyd gennym Ni.”

Dywedodd David Jones, y Rheolwr Gyfarwyddwr:“Roedd yn fuddugoliaeth wych i bawb a gymerodd ran - ffordd wych i gadarnhau pwysigrwydd yr hyn yr ydym yn anelu ei gyflawni. Nid ydym yn berffaith mewn unrhyw fodd, ond rydym yn rhoi cynnig arni a gwelliant parhaus yw enw’r gêm.

“Diolch o galon i'r holl dîm sy’n gysylltiedig â Princes Gate Spring Water, ac i’r staff yn rhwydwaith Arena am eu cefnogaeth werthfawr.”

Mae Princes Gate Spring Water hefyd ar y rhestr fer yn y categori busnesau bach a chanolig ar gyfer Gwobrau Busnes Sir Benfro.

Cynhaliwyd Gwobrau Busnes Cynaliadwyedd Cymru yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ddydd Iau 18 Hydref.

 MANYLION PELLACH:

Nicola Merriman, Rheolwr Marchnata Princes Gate  (01834) 831225 neu Nicola@princesgatespringwater.com

neu Leigh Roberts (01656) 788336 / (07739) 511466
E-bost: leigh@colemanroberts.co.uk

 

 

 

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 12 November 2007