Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Caws llaeth gafr wedi?I bobi
Article title

Llywodraeth Cynulliad Cymru Yn Ffair Aeaf Y Sioe Frenhinol

Full article

Bydd y rhai sy'n ymweld â stondin Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol, a gynhelir ddydd Llun a dydd Mawrth nesaf , 26-27 Tachwedd 2007, yn cael croeso gwresog.

Bydd staff y Cynulliad ar y stondin yn Neuadd Morgannwg wrth law drwy gydol y Ffair i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan ymwelwyr. Pwysigrwydd bioddiogelwch fydd prif thema'r stondin, sy'n bwnc arbennig o berthnasol o ystyried pa mor amlwg y mae clefydau anifeiliaid wedi bod yn ystod 2007.

Bydd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yn mynychu'r Ffair Aeaf ddydd Mawrth.

Un o uchafbwyntiau'r Ffair Aeaf yw'r Neuadd Fwyd, sef ‘y lle' i brynu bwyd a diod ar gyfer cyfnod yr ?yl, a bydd y Neuadd Fwyd yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol eleni gystal ag erioed.

Bydd y Neuadd Fwyd, a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnwys dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o dan faner y Gwir Flas a bydd yn arddangos rhai o'r cynhyrchion gorau o bob cwr o Gymru.

Gall ymhelwyr flasu a phrynu amrywiaeth eang o gynnyrch, yn ogystal â dysgu mwy am fwyd a diod o Gymru.

Mae manteision 'ffenestr siop' flaenllaw mewn digwyddiad deuddydd o'r fath - a lwyddodd i ddenu ychydig yn llai na 27,000 o ymwelwyr - yn hynod werthfawr.

Meddai Elin Jones: “Cig oen a chig eidion yw cynnyrch enwocaf Cymru, ond mae bwydydd eraill wedi bod yn ennill eu plwyf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae amrywiaeth anferthol o fwyd a diod yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac mae hyn yn amlwg o'r detholiad sydd ar gael yn y Neuadd Fwyd.

“Rwy'n annog pawb yng Nghymru i brynu cymaint o gynnyrch o Gymru ag sy'n bosibl y Nadolig hwn. Drwy wneud hyn, byddwch yn prynu cynnyrch ffres a thymhorol sydd heb gael ei gludo gannoedd neu filoedd o filltiroedd i gyrraedd eich plât.

“Byddwch hefyd yn cefnogi economi Cymru, a ffermwyr Cymru sydd wedi cael blwyddyn anodd yn sgil y cyfyngiadau oherwydd clwy'r traed a'r genau, y tafod glas a ffliw adar yn Lloegr.

“Mae ymweld â'r Ffair Aeaf, neu ?yl Nadolig neu farchnad ffermwyr arall, yn ffordd wych o wneud eich siopa Nadolig ac ymuno â hwyl yr ?yl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi 42 o wyliau bwyd eleni ac mae wedi darparu £400,000 i'w hyrwyddo.”
Ymysg yr arddangoswyr eleni yn y Ffair Aeaf bydd y Blaenafon Cheddar Company gyda'i gaws cheddar newydd ar gyfer pwdin Nadolig gyda ffrwythau a gwirod y Mynydd Du, ynghyd â byrddau caws llechi o Gwmni Llechi'r Berwyn.

Bydd pwdinau Nadolig hufen iâ bach wedi'u gorchuddio â siocled ar gael gan Llanfaes Dairy, a bydd fersiwn newydd ar gael o Selsig Morgannwg yn arbennig ar gyfer y Nadolig gyda chnau castan a llugaeron gan yr Unusual Food Company, ynghyd â phastai baedd gwyllt a madarch gwyllt mewn saws hufen a mwstard Dijon fydd yn cael ei wneud ar gyfer y Ffair Aeaf yn unig.

Yn y cyfamser, mae gan y Patchwork Traditional Food Company amrywiaeth o bethau i'w blasu gyda'u pates a'u prydau tymhorol fel pate petrisen a gellyg gyda gin llus.

Am y tro cyntaf, bydd Cow Pots Ice Cream o Hendy-gwyn-ar-Daf yn gwerthu hufen iâ blasus o wartheg Jersey y fferm yn y Neuadd Fwyd.

Hefyd, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf - yn gyhoeddus, yn ogystal ag yn y Neuadd Fwyd - bydd Pudding Compartment Ltd o Gonwy, sy'n cael ei lansio yn y Ffair Aeaf. Bydd modd i ymwelwyr flasu a phrynu pwdin Nadolig ffrwythus y cwmni, a chlywed am ei gynlluniau i gynnig mwy o bwdinau ar gyfer pob tymor ac achlysur.

Bydd y cwmni gwirodydd Condessa yn arddangos tryffls siocled newydd â gwirod, tra bydd Elan Valley Mutton yn dod ag ychydig o gynhesrwydd i'r gaeaf gyda chawl cig dafad. Bydd gan Adwell Foods amrywiaeth newydd o de ffrwyth.

Bydd pecyn triphlyg o gaws Cheddar Cadog ar gael gan Dairy Farmers of Britain, a bydd Evan Rees Butter yn arddangos menyn taenadwy newydd Hollybush a menyn Cymreig Hollybush.

Bydd cwmni losin llaeth gafr Kid Me Not yn lansio'i siocled - gan gynnwys siapau ar gyfer y Nadolig a thryffls siampên hufen gafr ffres yn y Ffair. Bydd cwmni Organic Aran Lamb yn gwerthu ei selsig newydd cig oen a mintys a ffagots cig oen.

Bydd Hufenfa De Arfon  yn lansio yn lansio caws Old Shire gyda Chennin ac yn arddangos Caws Welsh Rarebit, a bydd gan y cwmni losin Pembertons flwch anferthol ar ffurf coeden Nadolig sy'n cynnwys 198 o siocledau.

Mae gan y Welsh Mustard Company saws mintys mêl newydd, a bydd Penlon Cottage Brewery yn lansio'i gwrw newydd, Torwen.

Bydd wisgi brag sengl mawnog newydd Penderyn ar gael gan y Welsh Whisky Company, a bydd y Tipyn Bach Chocolate Companyyn dangos ei fariau siocled bach newydd gyda'u cymysgedd unigryw o siocled tywyll - sef Aur Du.

Adwell Foods Ltd/Welsh Brew Tea
Ffôn: 01792 3663391

The Authentic Curry Company
Ffôn: 01685 810044

Black Mountains Smokery Ltd
Ffôn: 01873 811566

The Blaenafon Cheddar Company
Ffôn: 01495 793123

Caws Nantybwla Farmhouse Cheese
Ffôn: 01267 237905

Celtic Country Wines
Ffôn: 01239 85 8888

Celtic Spirit Co Ltd
Ffôn: 01873 735770

Cheeses From Wales Ltd
Ffôn: 01974 282 572

Condessa
Ffôn: 01407 730021

Cow Pots Ice Cream
Ffôn: 01994 240434

Dairy Farmers of Britain
Ffôn: 08700 108191

Dewi Roberts Butchers
Ffôn: 01558 822566

Elan Valley Mutton
Ffôn: 01597 811240

Evan Rees Butter Ltd
Ffôn: 01792 310567

The Farmhouse Pantry
Ffôn: 01982 551070

Gwinllan Ffynnon Las Vineyard
Ffôn: 01545 570234

Gwynt Y Ddraig Cider Ltd
Ffôn: 07966 535026

Homemade Country Preserves
Ffôn: 01437 731553

In a Pickle
Ffôn: 01656 729305

Kid Me Not
Ffôn: 01558 685935

Llanfaes Dairy
Ffôn: 01874 625892

Maeth o Faldwyn
Ffôn: 01654 700397

Mosmar Liqueur & Spirits
Ffôn: 029 2070 7102

Organic Aran Lamb
Ffôn: 01678 540 603

The Original Welsh Oggie Company
Ffôn: 01295 713930

The Patchwork Traditional Food Company
Ffôn: 01824 705832

Pemberton's Victorian Chocolates & Confectionery
Ffôn: 01994 448800

Penlon Cottage Brewery
Ffôn: 01545 580022

Pigs Folly
Ffôn: 01597 860211

Popty Bach y Wlad
Ffôn: 01559 362335

Popty Pen Uchaf
Ffôn: 01690 770342

Premier Welsh Hampers Ltd
Ffôn: 01994 230202

Ralph's Cider
Ffôn: 01544 350304

Romy Cuisine
Ffôn: 07855 531550

Snowdonia Cheese Company Ltd
Ffôn: 01745 813388

South Caernarfon Creameries Ltd
Ffôn: 01766 810251

The Pudding Compartment Ltd
Ffôn: 01745 832441

The Welsh Sausage Company
Ffôn: 01938 553365

The Welsh Mustard Company
Ffôn: 01570 471497

The Welsh Whisky Company Limited
Ffôn: 01685 813300

Tipyn Bach Chocolate Company
Ffôn: 01492 650046

Toffoc Ltd.
Ffôn: 01248 852921

Tregroes Waffle Bakery
Ffôn: 01559 363468

The Unusual Food Company
Ffôn: 01639 849999

Welsh Venison Centre
Ffôn: 01874 730929

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 4 December 2007