Mae chef o’r Gelli Gandryll wedi derbyn un o brif anrhydeddau’r diwydiant bwyd: y wobr am Fwyd Arbenigol Gorau Cymru a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng ngwobrau Great Taste 2007.
Roedd Marmaled Grawnffrwyth a Sinsir Mike Carnell yn boblogaidd iawn gyda’r beirniaid, a roddodd iddo hefyd wobr Aur tair seren.
Trechodd cwmni Mike, Chef on the Run Foods, gystadleuaeth anodd gyda dim ond 46 cwmni allan o’r 4,500 o geisiadau o bob rhan o’r DU yn derbyn y wobr Aur dair-seren bwysig. Cafodd cynhyrchwyr Cymru 50 o wobrau Aur Great Taste rhyngddynt.
Mae hefyd yn falch iawn i fod wedi ennill Aur un-seren am ei Jam Llus ac Afal.
Cafodd yr holl fwydydd a gyflwynwyd broses feirniadu drwyadl. Ar ôl pum wythnos o flasu dall annibynnol, rhoddwyd gwobrau Aur i tua 800 gynnyrch, gyda 44 ohonynt o Gymru. Derbyniodd y rhan fwyaf raddiad un seren am eu rhagoriaeth gyffredinol mewn blas, ansawdd a blas, gyda 10 ledled Prydain yn cael dwy seren, 12 ohonynt o Gymru.
Mae gwobr Aur tair seren yn dangos i’r panel o feirniaid arbenigol eu hystyried yn ddifai.
Dywedodd Mike: “Rwyf wrth fy modd. Dyma’r deuddegfed wobr i ni ei hennill yng ngwobrau’r Great Taste yn y pedair blynedd y buom mewn busnes. Mae ein cadwolion bob amser yn gwerthu ond gall y wobr hon gynyddu’r galw ac annog pobl i roi cynnig ar y cadwolion eraill sydd yn ein hamrediad.”
Mae Mike yn chef proffesiynol a sefydlodd ei fusnes yn 2003. Ar ôl gweithio mewn nifer o fwytai a gwestai a gan ei fod bob amser yn rhedeg o gwmpas, penderfynodd y byddai’n paratoi cynnyrch yr oedd yn mwynhau eu gwneud.
Yn 2006 prynodd ef a’i wraig Rachel Ystafelloedd Te yr Hen Stablau yn y Gelli Gandryll lle maent yn gwerthu teisennau a phwdinau ffres a hefyd yn gwerthu eu cyffeithiau blasus.
Y mathau eraill o farmaled gwobrwyol yw Oren Cneuog a enillodd wobr Great Taste y llynedd, Triagl Du Hen Ffasiwn a Lemon a Sinsir Ffres. Maent hefyd yn gwneud jams a siytni.
“Mae gan bobl eu ffefrynnau, ond roeddwn bob amser yn gwybod fod Grawnffrwyth a Sinsir yn rhywbeth arbennig. Mae ein cwsmeriaid bob amser wedi ei hoffi, felly roedd gen i ryw fras syniad fod gennyf gyfle o ennill.”
Nid oes dim heblaw ffrwyth, sinsir a siwgr yn mynd i mewn i’r marmaled. “Nid wyf yn defnyddio unrhyw bectin neu gadwolion,” meddai Mike.
“Rwy’n cael fy ngrawnffrwyth o’r siop lysiau leol ac yn torri’r croen yn dew gyda llaw. Rydym hefyd yn defnyddio sinsir gwraidd ffres a dim ond ychydig rwy’n ei roi ym mhob jar, fel nad yw’n flas rhy gryf - dim ond digon fel y medrwch ei deimlo ar gefn eich corn gwddf.”
MANYLION PELLACH:
Leigh Roberts: 01656 788336
NODIADAU I’R GOLYGYDD
Mike Carnell, Chef on the Run, Gelli Gandryll
www.chefontherunfoods.co.uk
01497 821557