Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Pastai filo sbiboglys a chaws Bara lawr ffres gyda lemon
Iogwrt gyda Blawd Ceirch

Gwneud Caws

Lapio ac aeddfedu

Yn Saesneg, ceir dau air gwahanol ar gyfer aeddfedu caws. 'To mature' a ddywedir am gaws caled a 'ripen' am gaws meddal. Pa air bynnag a ddefnyddir, mae angen amser. Mae ceuled ffres caws caled yn newid ei ansawdd, yn 'dadelfennu'ac yn datblygu blas ac ansawdd sy'n nodweddiadol o'r math arbennig hwnnw o gaws. Gellir lapio caws neu ei adael i ddatblygu ei grofen ei hunan. Mae cawsiau meddal sy'n cael eu haeddfedu gan lwydni yn cael eu lapio i reoli twf y llwydni ar yr wyneb a'r broses aeddfedu. Mae'r holl ddefnyddiau lapio, papur neu ffilmiau 'plastig', yn cael eu gwneud yn arbennig at y diben. Mae caws yn gynnyrch byw ac mae'r defnyddiau lapio wedi'u cynllunio'n arbennig i ganiatáu iddo bara'n fyw.

Defnyddir gwahanol ddulliau o storio caws i'w alluogi i aeddfedu. Mewn ystafell gynnes, laith y cedwir rhai o'r mathau meddal o gaws er mwyn rhoi cyfle i'r grofen ddatblygu. Mae angen ystafelloedd llaith ar gyfer caws wedi'i olchi hefyd ond byddai hynny'n hollol anaddas ar gyfer caws o fath Caerffili neu Cheddar. Mewn ystafell sych y mae'r rhain yn aeddfedu orau. Mae'r tymheredd gorau ar gyfer aeddfedu caws caled yn amrywio rhwng 10 a 15°C, ond gall fod yn is mewn rhai hufenfeydd mawr. Gellir bwyta caws meddal ffres yn ifanc - pan fydd yn ddim ond ychydig ddyddiau neu wythnosau oed. Roedd llawer o fathau, fel Caerffili a Cheshire, yn cael eu gwneud ar y fferm i gael eu bwyta'n ifanc ac roedd rhai'n cael eu cadw a'u haeddfedu ar gyfer y gaeaf pan oedd bwyd yn brin. Erbyn hyn, yr un math yw'r rhan fwyaf, ond gellir cael Cheddar mwyn neu aeddfed - rhaid i'r un aeddfed fod yn flwydd oed neu fwy.

Ni ellir byth ddweud yn union sut gaws y byddwch yn ei gynhyrchu. Mae'n amrywio yn ôl yr offer a'r cynhwysion a ddefnyddir. Dyma un o'r pethau cyffrous am wneud - a bwyta - caws. Yn yr unedau cynhyrchu mawr, mae'r caws yn cael ei asesu cyn ei ddosbarthu er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon angenrheidiol. Mae'n haws i gynhyrchwyr bach roi ychydig o gaws i'r cwsmer i brofi cyn prynu. Amlinelliad bras a geir yma o'r mathau amrywiol o gaws sydd ar gael. Mae croeso i'r darllenydd weld a phrofi y math arbennig yma o gynnyrch Cymru.