Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr wy organig wedi?i ferwi
Teisen lap

Y Llwybr Caws

Caws Meddal wedi'i Aeddfedu gan Lwydni

Caws Preseli (Pantmawr), Perl Wen (Caws Cenarth)

Mae rhai pobl yn amheus o gaws sydd wedi'i aeddfedu gan lwydni. Gall llwydni dyfu lle na ddylai a, bryd hynny, efallai y byddai'n well taflu'r caws. Ond ceir llwydni dymunol hefyd, llwydni glas a llwydni gwyn, sydd, nid yn unig yn helpu i aeddfedu'r caws ond hefyd yn gwella'r ansawdd a'r blas.

Fel rheol, gwneir caws meddal a aeddfedir gan lwydni ar ffurf silindrau fflat. Ar ei orau mae iddo ansawdd hufennog ac arogl madarch ysgafn. Mae rhai pobl yn ei hoffi orau pan fydd yn eithaf rhedegog ag iddo flas amonaidd cryf. Ym marn y rhan fwyaf o bobl mae caws fel hyn wedi gor-aeddfedu ond mater o chwaeth personol yw hyn.

Gellir ychwanegu rhai mathau o lwydni gwyn fel Geotrichum candidum a Penicillium camemberti gyda'r meithriniad cychwynnol neu eu chwistrellu ar wyneb y caws ar ôl ei ddraenio. Ymhen rhai dyddiau, mae rhyw wawr yn dechrau ymddangos a hwnnw'n troi'n grofen wlanog wen. Mae llwydni ar yr wyneb yn rhan hanfodol o gaws meddal a aeddfedir gan lwydni.

Mae'r caws ifanc yn eithaf caled, bron fel caws Caer, ag iddo flas ysgafn iawn. Ymhen amser mae'n meddalu ac yn aeddfedu o'r tu allan i ganol y caws. Nid yw'r caws hwn yn para'n hir ac mae'n well ei brynu pan fydd cylch neu linell o gaws caled yn dal yn y canol. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r prynwr gwblhau'r broses aeddfedu a bwyta'r caws pan fydd ar ei orau.