Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Pastai filo sbiboglys a chaws Wyau pob organic
Caws Little Acorn (plaen)

Golwg Ar Fwyd Cymru - Mis Chwefror

Er bod y tywydd yn gallu bod yn ddiflas ym mis Chwefror - gyda gwynt, glaw ac awyr lwyd - does dim rhaid i'r bwyd a fwytawn fod yn ddiflas o gwbl. Mae Dydd Sant Folant yn rhoi cyfle i ni brofi bwydydd diddorol ac anghyffredin.

Mae'n hen gred bod bwyta pysgod cregyn yn lles i'ch bywyd carwriaethol. Mae'n fwy na thebyg mai eu siâp anghyffredin yw tarddiad y gred hon yn hytrach na faint o fwynau ac elfennau hybrin sydd ynddynt. Serch hynny, ceir llawer o sinc a mwynau eraill mewn wystrys ffres ac, o'u bwyta'n amrwd, gallant roi hwb sydyn i lefel y protein yn y corff a gwneud i ni deimlo'n dda. Mae wystrys a chregyn gleision yn fwydydd delfrydol i'w rhannu mewn pryd rhamantus ar Noson Sant Folant.

Welsh Oysters

Ceir nifer o welyau wystrys yng Nghymru - ym Mae Abertawe, Aberdaugleddau ac yn Afon Menai - ond gwaetha'r modd, dim ond yr olaf o'r rhain sy'n cynhyrchu wystrys ar hyn o bryd. Serch hynny, mae'r wystrys a ddaw o'r un dwr pur a glân â Halen Môr Môn yn ardderchog. Maent yn rhai llawn iawn ac mae iddynt flas da. Cwmni Menai Oysters sy'n rheoli'r gwelyau ym Mrynsiencyn ac fe geir system buro ar y tir gerllaw. Yma hefyd maent yn glanhau cregyn gleision o'r un safon uchel. Gellir archebu'r nwyddau trwy'r post. Os archebwch wystrys a chregyn gleision gyda'i gilydd, mae'r gost dosbarthu yn isel iawn.

Agor wystrys

I agor wystrysen: daliwch hi ar liain ar fwrdd, â'r gragen gwpan yn isaf, a'r colfach yn eich wynebu fel 6 o'r gloch ar gloc. Am 3 o'r gloch, rhowch y gyllell wystrys rhwng y gragen uchaf a'r gragen isaf gan ei symud yn ôl a blaen yn ofalus hyd nes iddi fynd trwodd. Symudwch hi yn ôl a blaen i dorri trwy'r cyhyr sy'n dal y ddwy gragen at ei gilydd ac yna tynnwch y gragen uchaf i fwrdd. Torrwch o dan y cyhyr i ryddhau'r wystrysen. I wneud hyn yn haws, gallwch roi'r wystrys, fesul tair, yn y popty meicrodon am 30 eiliad (yn dibynnu ar y pwer), fel bod y cregyn yn agor ychydig a'i bod yn haws i chi roi'r gyllell i mewn. Cadwch yr wystrys yn yr oer iawn hyd nes y byddwch yn eu bwyta.

Gweini wystrys

Dylid cadw wystrys yn oer iawn hyd nes y byddwch yn eu bwyta. Yn ddelfrydol, dylech eu cadw ar wely o rew wedi'i falu'n fân fel y byddant yn cadw'n oer hyd nes y bydd yr un olaf wedi'i bwyta. Mae hyn yn edrych yn dda hefyd. Gweinwch gyda darnau mawr o lemon, finegr sialóts, paprica, a saws Tabasco.

Os byddwch yn defnyddio ffyrc i fwyta'r wystrys, ffyrc bach sydd orau fel y gallwch godi'r wystrysen o'r gragen; mae'n well gan rai pobl wneud hyn na'i harllwys i'w ceg o'r gragen. Cofiwch fwynhau blas y sudd.

Coginio wystrys

Mae rhai pobl yn methu stumogi wystrys amrwd ond yn medru bwyta rhai sydd wedi'u coginio. Dylid eu coginio'n ysgafn (fel gyda phob math o bysgod cregyn) gan y byddant yn crebachu ac yn mynd yn wydn os cânt eu coginio ormod.

Dylid coginio wystrys mewn ffordd syml er mwyn cadw eu blas. Gellir eu grilio gyda menyn perlysiau neu gaws hufen fel Pantysgawn ar eu pennau, neu gaws hufen ag ynddo berlysiau, sbeisys neu flasynnau fel Tabasco neu saws pupur, mwtrin olifau du, mwtrin tomatos heulsych neu saws pesto.

Gellir eu ffrïo'n sydyn mewn menyn, gydag ychydig o shibwns wedi'u torri'n fân a pherlysiau fel coriander neu bersli. Neu gallwch eu rholio mewn blawd, wy a briwsion bara a'u ffrïo mewn menyn neu olew nes y byddant yn grispin fel sgampi.

Archebu wystrys a chregyn gleision

Menai Oysters,
Talybontbach,
Llanfair Pwllgwyngyll
Ynys Môn.
Mrs Brenda Krijnen
Ffôn: 01248 430878
Ffacs: 01248 450878
Ebost: theoysterman@eidosnet.co.uk

CIG DAFAD CYMREIG - pryd hyfryd yn y gaeaf

Mae cig dafad go iawn yn brin heddiw ond slawer dydd roedd yn eithriadol o boblogaidd ym Mhrydain. Pan fydd yr oen yn tyfu, os caiff gyfle, erbyn iddo gyrraedd dwy oed, bydd blas cyfoethog ac ansawdd tywyll, mwy dwys, i'r cig. Mae'r blas yn amrywio yn ôl lle bu'r ddafad yn pori. Mae porfeydd uchel Canolbarth Cymru'n ddelfrydol ac mae yma erwau lawer o dir organig lle gall y defaid grwydro. Mae Graig Farm ger Llandrindod (a ffermydd organig cysylltiedig) yn magu defaid yn yr hen ffordd. Pan fyddant yn ddwy oed, cânt eu hanfon i ladd-dy lleol a'u hongian am rhwng wythnos a phythefnos i'r cig gael aeddfedu. Mae'n rhaid coginio coes yn araf, am 4 - 6 awr, ond mae'r ansawdd clòs a'r blas dwfn yn tynnu dwr o'r dannedd.

Bu GRAIG FARM ORGANICS yn darparu gwasanaeth arbennig ers dros ddegawd. Dyhead Bob Kennard a'i deulu oedd gwneud y fferm hardd hon yn ganolbwynt ar gyfer marchnata organig, gan dderbyn cynnyrch ffermydd cyfagos a nwyddau organig o bedwar ban byd. Erbyn hyn maent yn gwerthu pysgod o Gefnfor De'r Iwerydd, gwin organig, prydau parod a phate, a bwyd babis! Maent wedi ennill llu o wobrau dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys gwobr 'Ymgyrchydd y Flwyddyn' ar Food Programme BBC4. Yn ddiweddar, cawsant Wobr Aur yng Ngwobrau Bwyd y Gwir Flas 2002.

Mae Graig Farm Organics yn cyflenwi Fresh and Wild yn Llundain ac yn gwerthu trwy'r post. Os hoffech wybod lle gallwch brynu eu cynnyrch, ewch i'w gwefan www.graigfarm.co.uk

Graig Farm, Dolau, Llandrindod, Powys LD1 5TL
Bob Kennard
Ffôn: 01597 851655
Ffacs: 01597 851991
Ebost: sales@graigfarm.co.uk

RYSÁIT

Coes cig dafad wedi'i rhostio a saws bara lawr

Mae cig dafad yn gig ardderchog i'w fwyta yn y gaeaf. Mae'n wahanol iawn i gig oen, sy'n llawer melysach. Mae blas cig dafad yn anhygoel - blas cig yn gymysg â pherlysiau a phlanhigion y bryniau - gellir ei gymharu o ran ansawdd â gwin Bwrgwyn safonol sydd wedi aeddfedu'n dda. Ceir disgrifiad o'r saws gan George Borrow, yr ysgolhaig a fu'n teithio Cymru yn haf 1854. Ceir ganddo ddisgrifiadau byw iawn o'r bwyd a gafodd; pan oedd yn aros ger Llangollen cafodd flas ar gig dafad o fynyddoedd y Berwyn gerllaw - 'moor mutton from the Berwyns, with piping hot laver sauce'.

Digon i 4

Hanner coes o gig dafad, tua 1.5 kilos
12 shibwnsyn - cyfan
8 ewin garlleg - heb eu plicio
1 winwnsyn mawr wedi'i dorri'n 8 darn
300ml seidr sych (seidr sych organig Ralph's yw'r gorau, o'r un ardal)
Halen Môn a phupur newydd ei falu
200ml stoc cig neu lysiau
Sudd a chroen tenau hanner oren
50ml sudd tomato
100g bara lawr

Cynheswch y ffwrn i Nwy 9, 240C, 475F

Rhowch ychydig o olew dros y cig, rhowch ef mewn tun rhostio a'i goginio am hanner awr. Ychwanegwch y shibwns, y garlleg a'r winwnsyn a chodi saim o'r tun drosto. Coginiwch am ddeg munud arall, yna ychwanegwch dipyn o halen a phupur a hanner y seidr. Rhowch orchudd llac o ffoil dros y cig, trowch y ffwrn i lawr i Nwy 2, 120C, 250F, a choginio'r cig am bedair awr. Defnyddiwch ddwy lwy bren i godi'r cig yn ofalus i blât cerfio poeth, gyda'r shibwns, y garlleg a hanner y winwns. Rhowch yn ôl yn y ffwrn, defnyddiwch lwy bren i gadw'r drws yn lled agored er mwyn rhoi cyfle i'r cig setio am hanner awr tra byddwch yn gwneud saws ac yn coginio'r llysiau.

Arllwyswch y saim i ffwrdd a rhowch weddill y seidr yn y tun rhostio. Rhowch ef dros wres cymedrol a'i droi fel bod unrhyw ddarnau'n dod i ffwrdd yn y seidr. Gwasgwch y winwnsyn yn dda a gadwch i'r darnau sydd wedi carameleiddio doddi. Pan fydd hanner yr hylif wedi anweddu ychwanegwch y stoc a choginiwch yr hylif dros wres uchel am rai munudau nes ei fod wedi tewychu eto. Hidlwch i mewn i sosban ac ychwanegu'r sudd tomato, sudd a chroen yr oren. Cynheswch yn dda. Gofalwch fod ansawdd y saws yn iawn a bod digon o halen a phupur ynddo. Ychwanegwch y bara lawr gan ei gymysgu'n dda a chadwch y saws yn gynnes.

Cerfiwch y cig ar draws lled y goes a'i weini ar unwaith gyda'r shibwns, y garlleg a'r winwns, y saws, tatws a llysiau gwyrdd.

CAWS Y MIS

Cerwyn Mwg Pant Mawr

Enillodd y caws hwn Wobr Aur yng Ngwobrau Caws Prydain yn ddiweddar.

O ardal hardd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro y daw caws Cerwyn. Caws meddal wedi'i olchi ydyw ac fe'i gwneir o laeth gwartheg. Mae caws wedi'i olchi yn datblygu dyfnder blas wrth iddo aeddfedu. Ceir iddo ansawdd hufennog, da a blas aeddfed a bywiog. Mae'r math a wneir trwy fwg yn gaws da ar gyfer y gaeaf - nid oes gormod o flas mwg arno, dim ond digon i roi awch ar yr ansawdd hufennog. Rhaid ei weini ar dymheredd yr ystafell ac mae'n well ei gadw yn y pantri, nid yn yr oergell, os nad ydych yn bwriadu ei gadw am fwy nag ychydig ddyddiau. Dylid ei lapio'n dda mewn clingffilm - bydd y blas yn amharu ar fwydydd eraill.

Gellir pobi Caws Mwg Cerwyn (450g) yn gyfan mewn ffwrn ar wres cymedrol am chwarter awr nes ei fod yn dwym ac yn toddi a'i weini gyda bara crystiog a ffyn llysiau (crudités) fel cwrs cyntaf mewn parti.

Mae Cerwyn Mwg yn hyfryd gyda gwin ffrwythaidd llawn, e.e. gwin coch o'r Byd Newydd, fel blendiau Shiraz a Cabernet-Merlot.

D H a C M Jennings
Pant Mawr Farm
Rosebush
Sir Benfro SA66 7QU
Ffôn/Ffacs: 01437 532627
E-bost: pantmawr-jennings@hotmail.com