Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Pastai filo sbiboglys a chaws Wyau pob organic
wy organig wedi?i ferwi

Canolbwynt Bwyd Cymru - Mawrth

Welsh Breakfast

Dydd Gwyl Dewi

Dyma'r diwrnod pan fydd Cymry sydd wedi symud oddi cartref i bedwar ban byd yn cofio eu nawddsant. Mae'r dathliadau yn ystod y dydd yn gorfod cynnwys rhywfaint o fwyd, diod ac adloniant Cymreig. Ond gall bwyd arbenigol ffres fod yn brin yr adeg hyn o'r calendr tymhorol. Prin wedi dechrau mae'r tymor pysgota; mae'n rhy gynnar i oen y gwanwyn, er bod hesbinod (wyn blwydd) yn aeddfed ac yn flasus, mae llysiau'n brin ac mae'n rhy gynnar i datws newydd. Mae rhai cynhwysion sydd wedi'u halltu, mewn tun neu wedi'u mygu o bosib yn opsiynau da ar yr adeg yma ac maent yn cynnwys ham wedi'i halltu a bacwn, cigoedd eraill wedi'u mygu, a phenfras ac eog wedi'u cochi.

Mae brecwast Cymreig yn ffordd dda o ddathlu Dydd Gwyl Dewi gyda selsig gan y cigydd lleol, bacwn dry-cured, wyau buarth, cocos Penclawdd a bara lawr yn gwneud gwledd heb ei hail. Mae Eog Cymru wedi'i gochi gyda wyau wedi'u sgramblo a bara lawr yn ddewis mwy ysgafn.

Ham Cymru

Ham Cymru

Yn y gorffennol roedd pob tyddyn yn cadw mochyn a fyddai'n chwilota'r tir, yn bwyta sbarion y teulu a bwyta llond ei fol o fwyd yn yr hydref, ac yna'n darparu digon o gig ar gyfer misoedd llwm y gaeaf. Byddai'r rhan fwyaf o'r cig yn cael ei halltu i'w wneud yn facwn a gamwn. Byddai'r broses draddodiadol o dry curing yn golygu y gellid cadw'r cig fisoedd lawer; byddai peth yn cael ei fygu mewn simnai fawr y gegin i roi gwahanol flas mwg o'r pren.

Yn yr oes fodern, mae ham yn cael ei halltu trwy chwistrellu dwr hallt i'r porc. Mae hyn yn tywyllu'r cig ac yn newid yr ansawdd. Mae dry curing yn ffurfio crwst ar y cig gan achosi adwaith cemegol araf ac i'r hylifon anweddu trwyddo. Mae'n cymryd tua chwe wythnos i halltu ham cyfan, ond gwnaiff y broses barhau am sawl mis gyda'r cig amrwd yn cael ei halltu'n gyfan gwbl. Ar y cyfandir, mae ham Bayonne, Parma ac Ibercio yn ddanteithfwyd poblogaidd.

Yng Nghymru mae halltu traddodiadol wedi diflannu i bob pwrpas, gyda chwmni Albert Rees o farchnad Caerfyrddin yn un o'r ychydig sy'n parhau traddodiad teuluol i'r bumed cenhedlaeth. Mae Chris ac Ann Rees yn halltu tua phumdeg ham yr wythnos, gyda rhai'n cael eu berwi a'u gwerthu fel ham wedi'u coginio yn y farchnad a'r goreuon yn eu plith yn cael eu cadw am naw mis i ddod yn ham Sir Gâr. Bwyteir hwn yn union fel ham y cyfandir sydd wedi'i halltu, rhan amlaf wedi'i dorri'n dafellau tenau a'i weini'n oer, efallai gyda ffrwythau megis melon neu ffigys. Gellir grilio neu ffrïo tameidiau fel rhoi garnais ar gyfer salad. Nid yw'n addas ar gyfer ei ferwi na'i bobi.

Mae nifer o gwmnïoedd eraill yn gwneud bacwn a ham dry cured mwy traddodiadol, a'r mwyaf nodedig ohonynt yw Cig Moch Penllyn, ger Pwllheli ar Pen Llyn. Maent yn cyflenwi'r farchnad lleol ac yn dosbarthu trwy Caws Cymru, Vin Sullivan, a Blas ar Fwyd.

Cig Moch Penllyn
Penyberth, Penrhos, Pwllheli, Gwynedd LL53 7HG
Ffôn: 01758 701737

Coginio ham

Mae hyn ar gyfer pob ham dry-cured arferol, neu ham modern megis yr hwn y gellir ei brynu mewn unrhyw archfarchnad.

Ham cyfan ar yr asgwrn sydd orau, a gwnaiff fwydo nifer o bobl. Mae darn o ham yn coginio'n dda, a gorau po fwyaf ydyw.

Darn 3 cilo o ham
1 nionyn
1 moron
1 coes o seleri
1 sialotsyn - wedi'i hoelio â 12 clof
3 deilen llawryf
1 sprig mawr o teim (neu sych)
1 coes o marchbersli (os ar gael)
500ml seidr sych

Cymerwch sosban sy'n ddigon dwfn i ddal y cig. Llanwch hi gyda dwr i orchuddio'r ham ac ychwanegwch yr holl gynhwysion, gyda'r llysiau wedi'u torri'n fras. Twymwch i'r berw ac yna mudferwch am 30 munud fesul cilo. Diffoddwch y gwres a gadewch i oeri. Os yn bwyta'n gynnes gyda saws persli, tynnwch o'r sosban wedi hanner awr o oeri.

Rhoi sglein ar yr ham

2 llwy bwdin o fwstard

4 llwy bwdin o siwgr brown meddal

Cynheswch y ffwrn i marc nwy 8, 225C 475F

Pan yn oer, codwch yr ham o'r stoc a chadwch hwn ar gyfer cawl. Yn ofalus, tynnwch y croen heb rwygo'r braster, dylai fod gorchudd dda o fraster i'w gadw'n llaith. Gwnewch batrymau croes yn y braster heb fynd drwodd i'r cig. Taenwch y mwstard dros yr ham, yna ysgeintiwch y siwgr yn gyfartal. Rhowch ar hambwrdd rhostio a choginiwch am tua 20 munud yn y ffwrn tan ei fod fel aur brown.

I brynu ham

Ham Caerfyrddin, Albert Rees, Marchnad Caerfyrddin
Ffôn: 01267 237687
Ebost: sales@carmarthenham.co.uk

Vin Sullivan Cyf
Ystâd Gilchrist Thomas, Blaenafon, Gwent
Ffôn: 01495 792792
Ffacs: 01495 782277
Ebost: sales@vinsullfoods.fsbusiness.co.uk

I brynu Cocos neu bara lawr

Leslie Parsons a'i Feibion
Porth Tywyn, Caerfyrddin SA16 0ET
Ffôn: 01554 833351
Ffacs: 01554 833858
Ebost: sales@parsonspickles.co.uk
Cocos, misglen a bara lawr mewn tun

The Welsh Barrow
Blwch Post 218, Mwmbwls, Abertawe SA3 4ZA
Ebost: evans@fentiman.demon.co.uk
Gwefan: www.laverbread.org
Bara lawr mewn tun

Caws y mis

Caws y mis

Gorwydd Caerffili, Tregaron SY25 6NY
01570 493516
maugan@gorwydd.com
Maugan Trethowan

Mae'n bosib iawn mai Gorwydd yw'r caws Caerffili aeddfed amhasteuredig mwyaf nodweddiadol a wnaed eriod. Ar eu fferm yn Nhregaron yng Ngorllewin Cymru, mae'r brodyr Trethowan yn gwneud y caws yn y dull traddodiadol. Mae'n cael eu wasgu'n gawsiau neu'n rowndiau pedwar cilo, ac yna'n ffurfio crwst caled. Mae'r caws yn cael ei aeddfedu am nifer o fisoedd, a'i droi'n rheolaidd er mwyn sicrhau dosbarthiad cyfartal o leithder. Mae'r croen yn troi'n dywyll gydag amser ac yn magu arogl madarch, hydrefol. Mae'r caws yn hufennog wyn, yn aros yn llaith ar yr ochrau ac ychydig mwy caled a briwsionllyd am y canol. Mae iddo ansawdd hufennog, brau ac ychydig o egrwch sy'n nodweddu'r Caerffili gorau. Gorwydd yw deilydd cyfredol Gwobr Aur Gwobrau Caws y Byd am gaws Caerffili ac am gaws gorau Cymru.

Gellir ei brynu gan Vin Sullivan, Cegin Cymru, Blas Ar Fwyd, ac yn Llundain gan Laethdy Neal's Yard yn Covent Garden a La Fromagerie yn Moxon Street, Mayfair.

Vin Sullivan Ltd, Stâd Gilchrist Thomas, Blaenafon, Gwent
Ffôn: 01495 792792
Ebost: sales@vinsullfoods.fsbusiness.co.uk

Cegin Cymru Cyf
Ffôn: 029 2086 3352
Ebost: sales@welsh-food.com
Gwefan: http://www.welsh-food.com

Blas ar Fwyd
25 Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy LL26 0BT
Ffôn: 01492 640215
Ebost: deiniol@blasarfwyd.wales.com
Gwefan: www.blasarfwyd.co.uk

Llaethdy Neal's Yard
19 Short's Gardens, Llundain WC2H 9UP
Ffôn: 020 7240 5700 : Neu archebion post Ffôn: 020 7645 3555
Ebost: mailorder@nealsyarddairy.co.uk
Gwefan: www.nealsyarddairy.co.uk

La Fromagerie
2-4 Moxon Street, Llundain, W1U
Ffôn a Ffacs: 020 7935 0341
Ebost: info@lafromagerie.co.uk
Gwefan: www.lafromagerie.co.uk