Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr wy organig wedi?i ferwi
Pwmpenni

Golwg Ar Fwyd Cymru - Tachwedd

Golwg Ar Fwyd Cymru - Tachwedd

Mis Tachwedd yw dechrau'r gaeaf ac mae'r nosweithiau'n hir ar ôl i ni droi'r clociau. Ar ôl Calan Gaeaf mae partïon tân gwyllt yn dod i godi'n calonnau - partïon awyr agored olaf y flwyddyn. Mae angen diodydd a bwydydd cynnes a does dim yn well na chwn poeth. Mae'n syniad da cael barbeciw ar wahân i goginio'r sosejis ac i gynhesu'r rholiau bara i wneud cwn poeth ardderchog.

Er mwyn cael cwn poeth da, mae angen sosejis o safon uchel, bara da, winwns wedi'i ffrio'n grisp a dewis o sawsiau. Mae llawer o siopau cig yng Nghymru yn gwerthu sosejis o'r safon uchaf.

Mae gan Edwards o Gonwy, enillwyr Gwobr Aur Gwerthwyr Gwerthfawr yng Ngwobrau'r Gwir Flas/True Taste 2002, ffatri bwrpasol yn Sir Fôn i wneud eu sosejis a'u pwdinau gwaed ac i halltu bacwn. Mae'n werth teithio'n bell i'w siop ar Stryd Fawr Conwy i brynu bwydydd o'r safon uchaf - o fara cartref i gig Gwartheg Duon Cymreig. Gallwch wneud eich siopa ar-lein hefyd trwy fynd i'w gwefan ac fe gaiff y nwyddau eu dosbarthu cyn pen 24 awr.

www.edwardsofconwy.co.uk
Ffôn: 01492 592443

Golwg Ar Fwyd Cymru - Tachwedd

Ateb y Canolbarth i'r Harrods Food Hall yw'r Langfords Food Hall a ddatblygwyd gan gigydd o'r enw John Langford. Ceir yma bob math o fwyd ac mae'n adnabyddus am werthu cigoedd Cymreig o'r safon uchaf, cawsiau a bwydydd trwy fwg - ac, yn fwy na dim, sosejis arbennig. Roedd y Sosej Cig Oen Trefaldwyn gyda Mint a Garlleg yn bencampwr ym 1999 ond mae'r gwahanol fathau o sosejis porc yn rhai ardderchog hefyd.

www.langfordsfoodhall.co.uk
Ffôn: 01938 552331

Yn y De, ceir siop ardderchog ym mhentref Sanclêr. Yno, mae siop Eynons yn gwerthu pob math o gigoedd gwych, gan arbenigo yng nghig oen y glastraeth. Mae ganddynt ddewis da o brydau parod sydd wedi'u paratoi yn eu ceginau nhw'u hunain, yn eu plith, llawer o brydau cig a helgig. Maent yn halltu eu bacwn eu hunain ac mae eu cigoedd parod a'u sosejis o'r safon uchaf. Mae dewis da o fwydydd yn eu siop - lle da i wneud eich siopa Nadolig.

www.eynons.co.uk
Rhadffôn 0800 731 5816

Mae cigoedd a sosejis organig ardderchog i'w cael gan dau fusnes arloesol sy'n arbenigo mewn nwyddau organig. Gan fod yr anifeiliaid yn pori ar ddolydd naturiol sydd heb eu trin gan blaleiddiaid na gwrteithiau artiffisial, ceir blas naturiol da ar y cigoedd. Mae'r cig yn cymryd mwy o amser i ddatblygu ond mae iddo mwy o flas ac mae'r ansawdd yn well.

Plas Rhug, a enillodd Wobr Efydd yng nghystadleuaeth y Gwir Flas yn 2002, yw stad organig fwyaf Prydain. Erbyn hyn, mae ganddynt siop lwyddiannus sy'n gwerthu eu cynnyrch organig nhw'u hunain ac eraill, ynghyd â chaffi bach. Caiff gwartheg, wyn a moch eu magu ar y stad i roi cig organig a bydd twrcwn o'r safon uchaf yn barod ar gyfer marchnad y Nadolig. Byddai'n well archebu nawr. Cewch ymweld â siop y fferm sydd ger Corwen ar yr A5 yng nghanol harddwch Dyffryn Dyfrdwy neu gallwch wneud eich siopa ar y we.

www.rhugorganic.com
Ffôn: 01490 413000

Graig Farm Organics a enillodd Wobr Aur O'r Gorlan Organig yng ngwobrau'r Gwir Flas 2002. Mae gwefan y cwmni hwn o'r Dolau ger Llandrindod, Powys, yn werth ei gweld.

www.graigfarm.co.uk
Ffôn: 01597 851655

Rysáit

Ci Poeth Cymreig

Digon i barti o 6 - 8

1 kilo sosejis o'r safon uchaf
250g winwns wedi'u sleisio
1 llond llwy de halen môr Môn
2 llond llwy bwdin olew
ychydig o ddail saetsh neu binsied o saetsh sych
pupur newydd ei falu
6 'sliper' bara ciabatta
6 llond llwy de mwstard mwyn
Tshytni a sawsiau o'ch dewis

Cynheswch y barbeciw (neu ffreipan neu'r gril os ydych yn coginio o dan do) i wres cymedrol - nid yn rhy boeth. Griliwch y sosejis neu eu ffrio, gan eu troi fel bod lliw ar bob ochr, am ryw 10 munud nes y byddant yn frown euraid. Rhowch nhw i gadw'n gynnes â ffoil drostynt. Yn y cyfamser, ffriwch y winwns mewn ffreipan fawr, yn yr olew a'r halen môr dros wres cymedrol am 15 - 20 munud, gan eu troi'n rheolaidd gan ychwanegu'r saetsh bob hyn a hyn. Torrwch y ciabatta ar ei hyd, dri chwarter o'r ffordd drwyddo, ac agorwch dipyn arni i roi poced dda. Yna, torrwch hi yn ei hanner neu yn dri (gan ddibynnu ar faint y ciabatta) fel y bydd pob un yn gwneud dau neu dri o barseli. Cynheswch y ciabatta ar y gril neu yn y ffwrn am ychydig i'w gwneud ychydig yn fwy crisb. Taenwch ychydig o fwstard ar waelod poced y ciabatta, a rhoi ychydig o winwns wedi ffrio ynddi. Torrwch y sosejis yn eu hanner ar eu hyd a rhoi dau ddarn ar ben y winwns, ac ychydig o winwns ar eu pen. Yna, rhowch relish o'ch dewis, caewch y boced trwy ei gwasgu'n ysgafn a mwynhewch fwyta'r ci poeth yn eich dwylo.

Gallwch eu cadw'n gynnes ar hambwrdd â ffoil drostynt, naill ai ar y barbeciw neu o dan gril isel neu mewn ffwrn ar wres isel.

Caws y Mis

Caws y Mis

Nantybwla

Busnes teuluol ar gyrion Caerfyrddin yw Fferm Nantybwla. Caiff ei rhedeg gan Edward ac Eiddwen Morgan sy'n gwneud sawl math o gaws o'i buches o dda Erie Holsteins. Caws Caerffili a chaws Cheddar yw'r ddau fath sylfaenol a wneir - caiff y ddau fath eu gwasgu i wneud rowndiau traddodiadol 4 cilo. Caws eithaf aeddfed ag iddo flas naturiol ydyw. Mae'r Cheddar yn eithaf briwsionllyd ac, er bod y Caerffili ychydig bach yn siarp, mae iddo hefyd flas hufennog, cyfoethog.

Maent yn gwneud cosynnau bach 400g traddodiadol, rhai ohonynt mewn cwyr i'w cadw'n ffres. Maent hefyd yn gwneud rhai cawsiau â blas - bara lawr, garlleg a chennin sifi, a chaws Caerffili blasus trwy fwg. Mae'r rhain ar gael yn y ddau faint.

Eleni, lansiwyd caws ceulaidd ffres, heb ei wasgu, mewn cylchoedd fflat 200g maint caws camembert. Mae hwn yn gaws naturiol, ifanc, ffres ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi caws cryf iawn. Gallwch ei dorri'n giwbiau mewn salad, ac mae'n dda gyda ffrwythau neu ar gyfer gwneud cacen gaws. Mae ar gael hefyd gyda blas bara lawr neu arlleg a chennin sifi ac mae'r rhain yn flasus mewn cyrsiau cyntaf neu brydau llysieuol.

Gellir prynu cawsiau Nantybwla ledled Cymru trwy gwmnïau Castell Howell, Vin Sullivan, a Caws Cymru, ac ym Marchnad Caerfyrddin.

Caws Nantybwla
Nantybwla Farm
Heol y Coleg
Caerfyrddin SA31 3QS
01267 237905

Rysáit

Salad caws bara lawr

Digon i 4
Amser paratoi 15 munud

Rownd 200g o gaws ceulaidd a bara lawr
1 pecyn dail salad cymysg
1 pecyn roced
4 tomato heulsych mewn olew
1 llond llwy bwdin caprys
100g ham Caerfyrddin
Persli ffres wedi'i dorri'n fân

Saws

1 llond llwy de mwstard
20 ml finegr seidr
10 ml olew o'r tomatos
30 ml olew olewydd
halen a phupur

Rhowch holl gynhwysion y saws mewn jar a'i chau'n dynn. Ysgwydwch hi'n dda. Golchwch y dail a'u sychu os oes angen a'u rhoi mewn powlen fawr. Arllwyswch ychydig o'r saws drostynt a'u cymysgu'n dda. Rhowch y dail ar bedwar plat. Torrwch y caws yn giwbiau neu ei friwsioni a'u gollwng dros y salad. Torrwch y tomatos a'u rhoi drosto, a darnau bach o ham, caprys a phersli dros y top wedyn. Gweinwch weddill y saws ar wahân.

Sylwch: gallwch grilio'r ham i'w wneud yn grenshlyd, a ffrio'r caprys mewn saim dwfn i roi rhagor o flas. Os nad ydych yn bwyta cig, peidiwch â chynnwys yr ham.