Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Iogwrt gyda Blawd Ceirch

Canolbwynt Bwyd Cymru - Hydref

Cenhinen

Mis Hydref yw mis y tarth a'r ffrwythau melys, gwasanaethau diolchgarwch a Chalan Gaeaf, pan fydd y dydd yn byrhau a llwydrew cyntaf y gaeaf yn bwrw haen wen dros y tir. Gwelir newid mawr yn y tywydd yn ystod mis Hydref; yn aml, gallwn fwynhau Haf Bach Mihangel ar ddechrau'r mis ond yna daw gwynt a glaw ac, erbyn Calan Gaeaf, mae'n bryd estyn y sgarff a'r menig. Mae'r cynnyrch yn y marchnadoedd bwyd yn newid, hefyd a ffrwythau a llysiau'r gaeaf yn dechrau ymddangos.

I rai sy'n mwynhau bwyd da, mae'n gyfnod cyffrous. Mae'n dymor helgig, mae cnwd toreithiog o fadarch gwyllt yn y caeau ac mae llysiau cyntaf y gaeaf, fel maros, pwmpenni, llysiau gwraidd a llysiau gwyrdd y gaeaf yn eu tymor ynghyd â chnau ac aeron gwyllt. Dyma ddechrau tymor y bwyd maethlon i lenwi'r bol a'n cynhesu oddi mewn. Hwn hefyd yw tymor yr wystrys a'r lleden arw (turbot), sef brenin y lledod. Slawer dydd, yr hydref oedd dechrau tymor y gwleddoedd, pryd yr oedd y beirdd yn crwydro o blasty i blasty yn difyrru'r boneddigion mewn ciniawau moethus.

Erbyn hyn, mae digonedd o gynnyrch lleol naturiol, ffres a thymhorol ar gael ym marchnadoedd ffermwyr Cymru. Mae llawer o'r bwydydd gwyllt, naturiol a'r rhai a gynhyrchir ar ffermydd a thyddynnod yn ardderchog ac yn ddeunydd crai gwych ar gyfer coginio yn y cartref ac mewn bwytai.

Dyma rai o'r pethau i chwilio amdanynt yn y marchnadoedd:

Madarch gwyllt

Madarch gwyllt -

Boledau bwytadwy, wics crynion neu porcini (boletus edulis), yw'r madarch gorau i'w bwyta. Dim ond tua 3 - 5 cm ar draws yw'r rhai lleiaf ond gallant dyfu i tua 20 cm neu fwy. Maent yn hawdd eu nabod wrth eu coesau boliog a'u capan crwm sy'n edrych fel bynsen ffres. Nid tagellau sydd ar ochr isaf y capan ond, yn hytrach, mae'n debyg i sbwng. Po fwyaf agored yw'r capan, hynaf yn y byd yw a chryfaf yw'r blas.

Mae'r rhai ifanc yn hyfryd wedi'u ffrïo mewn ychydig o olew neu fenyn, gydag ychydig o sialóts a garlleg efallai, neu gig moch wedi'i dorri'n fân. Gellir eu bwyta gyda chig neu fwyd môr neu ar eu pen eu hunain. Mae'r rhai mwy aeddfed yn well mewn saws, risoto, cawl neu stiw neu gyda phasta. Mae'n werth eu gwahanu gan y gall blas cryf y rhai hyn amharu ar y rhai ifanc.

Madarch hawdd eu hadnabod yw 'girolles' neu siantrelau sydd ar ffurf côn. Rhai lliw melyn-bricyll yw'r rhain ac mae iddynt arogl cyfoethog. Maent yn hyfryd gyda ffowls a bwyd môr. Gallwch eu paratoi fel y wics crynion uchod, gan wahanu'r rhai mawr oddi wrth y rhai bach.

Caiff madarch y maes eu cyfrif yn rhai da iawn. Capanau gwynion a thagelli pinc sydd i'r rhain ac mae'r capan yn mynd yn fwy fflat a'r tagelli'n troi'n frown wrth iddynt aeddfedu. Ni ddylid drysu rhyngddynt â madarch sydd wedi'u ffermio. Mae'n werth eu gwahanu fel uchod a'u coginio yn yr un ffordd hefyd. Mae blas cryfach ar y rhai hyn ac maent yn dda mewn cawl a stiw. Peidiwch â'u mwydo - maent fel sbwng; golchwch nhw'n sydyn a'u sychu ar unwaith; coginiwch nhw'n syth gan eu bod yn dirywio'n sydyn - gellir eu hailgynhesu'n wych.

PWYSIG: peidiwch â bwyta unrhyw fath o fadarch gwyllt nad ydych yn siwr ohono. Mae cap y cythraul - amanita phalloides yn farwol ac nid oes triniaeth effeithiol ar ôl ei fwyta. Gall mathau eraill achosi poen yn y bol.

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf

Mae maros, pwmpenni ac ati yn boblogaidd iawn yn yr hydref a'r gaeaf. Rydym yn cysylltu'r bwmpen â Chalan Gaeaf. Ers canrifoedd, bu pobl yn gwneud jaclantars trwy dynnu canol y bwmpen, torri siâp wyneb a rhoi cannwyll y tu mewn iddi i ddychryn ysbrydion drwg!

Y ffordd hawsaf o goginio maros, pwmpenni ac ati yw pobi rhoi yn y ffwrn nes eu bod yn eithaf meddal. Yna, gellir tynnu'r rhan flasus allan yn hawdd. Os yw'r croen yn dyner, mae trionglau ohono'n flasus iawn fel llysieuyn. Gellir defnyddio'r tu mewn i wneud cawl, peis, gratin, risoto, stwnsh neu ei ddefnyddio yn lle tatws.

Gêm neu helgig

Mae'r tymor helgig yn dechrau ar Hydref 1, ond fel rheol ni ddechreuir saethu ffesantod tan fis Tachwedd. Mae hwyaid gwylltion, petris, giachod a chyffylogod yn dechrau ymddangos, y ddau olaf yn dibynnu ar y tywydd. Mae blas da iawn ar hwyaid gwylltion, gan eu bod yn bwyta bwyd naturiol, yn enwedig mewn gaeau yd.

Mae saethu'n dod yn boblogaidd iawn ond mae llawer o stadau wedi dechrau trefnu sesiynau saethu ffesantod ar raddfa fawr iawn. Mwyaf yn y byd o adar a saethir, uchaf yw'r tâl a godir.

Yng Nghymru ceir meysydd saethu rhagorol sy'n defnyddio'r dirwedd i wneud y gamp yn gyffrous ac i ymestyn crefft yr heliwr. Ceir meysydd hela da ar stadau fel Glan Usk yng Ngwent, y Wern ger Tremadog, Gwynedd, Stackpole yn Sir Benfro a Tregoed ger Aberhonddu. Oddi yno, caiff gwerthwyr a phroseswyr helgig ddigonedd o ffesantod, petris a hwyaid gwylltion, ac ychydig o gyffylogod, giachod ac ysgyfarnogod.

Gwobrau Bwyd

Mae beirniaid Gwobrau Bwyd y Gwir Flas 2003 wrthi'n penderfynu ar ôl cryn dipyn o ystyried, profi a blasu, ac fe gyhoeddir enwau'r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar 14 Tachwedd a gynhelir eto eleni yn y Celtic Manor. Yn y cyfamser, mae cwmnïau o Gymru wedi bod yn gwneud yn dda yn y Fine Food Fair, Great British Taste Awards a'r British Cheese Awards.

Enillodd Albert Rees y brif wobr am gynnyrch Cymreig yn y British Taste Awards gyda'i Ham Caerfyrddin. Bu'n cynhyrchu'r ham hwn ar gyfer stondin y teulu ar farchnad Caerfyrddin ers blynyddoedd lawer. Erbyn hyn, mae ar werth mewn llefydd eraill (er na chynhyrchir llawer iawn ohono o hyd) trwy gyfanwerthwyr fel Vin Sullivan ym Mlaenafon a Blas ar Fwyd yn Llanrwst. Mae cogyddion yn defnyddio'r ham arbennig hwn mewn ffyrdd creadigol mewn llawer o brydau. Mae Chris Chown, Cogydd Plas Bodegroes sydd wedi ennill Seren Michelin yn lapio'r ham tenau o gwmpas foie gras mewn pryd sy'n cynnwys gellyg wedi'u piclo - hyfryd!. Ac mae Janet Williams yn y Pilgrims Tea Rooms yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn gwneud quiche arbennig sy'n cynnwys Ham Caerfyrddin.

Enillwyd y Fedal Aur yn y Great British Cheese Awards gan Gaws Teifi ar gyfer eu caws o fath Gouda (gweler isod). Ym 1999, enillodd John Savage y brif wobr yn y sioe honno gyda'i gaws Celtic Promise sydd wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn.

Caws y Mis

Caws y Mis

Caws Teifi math Gouda

Sefydlwyd cwmni Teifi Farmhouse Cheeses (Caws Teifi) ym 1982 gan John a Patrice Savage-Onstwedder. Maent yn wneuthurwyr caws wrth grefft sy'n gwneud sawl math o gaws amhasteuraidd, caled a meddal. Daw'r holl laeth ffres, amhasteuraidd a ddefnyddiant o'r ardal leol a dim ond llaeth amrwd naturiol a ddefnyddir ganddynt i wneud caws. Mae eu cawsiau'n rhai hufennog braf ac mae eu blas yn amrywio yn ôl y math o bridd a'r glaswelltydd, y blodau a'r perlysiau y bu'r gwartheg yn pori arnynt yn y dolydd a'r cloddiau.

Maent yn gwneud caws o fath gouda gan ddefnyddio rysáit y daeth Patrice â hi i Gymru o'r Iseldiroedd. Gwneir y caws mewn cylchoedd 5 cilo ac mae crofen galed naturiol yn ffurfio arno. Gadewir ef i aeddfedu am 18 mis ac fe gaiff ei droi â llaw sawl gwaith yr wythnos. Gwneir cosynnau llai, tua 750 gram hefyd. Weithiau, rhoddir gwahanol bethau i roi blas yn y ceulion yn gynnar yn y broses er mwyn rhoi blas naturiol i'r caws ac yna gadewir ef i aeddfedu yn yr un ffordd. Ymhlith y blasau mae bara lawr, danadl, pupur a garlleg.

Mae Caws Teifi, yn cynnwys Celtic Promise, a'r cosyn mawr Saval, ar gael yng Nghymru o Caws Cymru, Cegin Cymru, Blas ar Fwyd, trwy Brydain gan Vin Sullivan ac yn Llundain o Jeroboams a The Cheese Cellar Company. Yn ogystal, mae ganddynt eu stondin eu hunain ym Marchnad Caerfyrddin ar ddyddiau Mercher, Gwener a Sadwrn. Mae Caws Teifi ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn o 9 tan 5 a gellir prynu caws a menyn yn siop y fferm.

Caws Teifi
Glynhynod,
Ffostrasol,
Llandysul,
Ceredigion,
SA44 5JY
Ffôn / Ffacs: 01239 851528

Rysáit

Gratin pwmpen gyda Ham Caerfyrddin a Chaws Teifi

1 bwmpen gyfan neu gowrd tua 2 cilo
100g sialóts, wedi'u torri'n fân
50g menyn
100g tomatos wedi'u torri'n fân neu sudd tomato
6 sbrigyn persli neu goriander, wedi'u malu'n fân
Halen Môn a phupur newydd ei falu
50g Ham Caerfyrddin, wedi'i dorri'n ddarnau 2cm
100g Teifi Gouda
Paprica

Cynheswch y ffwrn i nwy marc 6, 200C 400F

Golchwch y bwmpen a'i thorri yn ei hanner. Tynnwch yr hadau a'r ffibrau. Rhowch hi ar silff bobi a'i phobi yn y ffwrn am 30 - 40 munud neu nes y bydd y tu mewn yn eithaf meddal ac y gellir eu dynnu'n hawdd â llwy. Ffrïwch y sialóts yn ofalus mewn menyn nes eu bod yn dechrau newid eu lliw. Stwnshwch y rhain yn fras i mewn i gnawd y bwmpen, gyda'r tomato, hanner y perlysiau a'r sesnin. Rhowch hyn mewn dysgl gratin, neu mewn dysglau unigol. Rhowch y darnau ham ar eu pennau a gratio'r caws drostynt i gyd. Rhowch nhw yn ôl yn y ffwrn a'u pobi am 5 - 10 munud hyd nes y byddant wedi cynhesu trwyddynt a'u topiau'n hisian. Taenellwch ychydig o paprica a pherlysiau ffres drostynt a'u bwyta ar unwaith. Dyma fyrbryd hyfryd neu gallwch ei fwyta fel llysieuyn gyda chig neu bysgodyn plaen.